1Yn y drydedd flwyddyn o deyrnasiad y Brenin Belsassar cefais i, Daniel, weledigaeth arall at yr un gyntaf a gefais.
2Yr oeddwn yn y palas yn Susan yn nhalaith Elam, a gwelais yn y weledigaeth fy mod wrth yr afon Ulai.
3Edrychais i fyny a gwelais hwrdd yn sefyll ar lan yr afon. Yr oedd ganddo ddau gorn hir, gyda'r hiraf o'r ddau yn tyfu ar �l y llall.
4Gwelwn yr hwrdd yn cornio tua'r gorllewin, y gogledd a'r de, ac ni allai'r un anifail ei wrthsefyll na neb achub o'i afael. Yr oedd yn gwneud fel y mynnai, ac yn cyflawni gorchestion.
5Fel yr oeddwn yn ystyried hyn gwelais fwch gafr a chanddo gorn enfawr rhwng ei lygaid; yr oedd yn dod o'r gorllewin ar draws yr holl wlad heb gyffwrdd �'r ddaear.
6Daeth at yr hwrdd deugorn a welais yn sefyll ar lan yr afon, a rhuthro arno �'i holl nerth.
7Gwelais ef yn nes�u'n ffyrnig at yr hwrdd, yn ei daro ac yn torri ei ddau gorn, ac am nad oedd yr hwrdd yn ddigon cryf i'w wrthsefyll, bwriodd ef i'r llawr a'i fathru; ac nid oedd neb i achub yr hwrdd o'i afael.
8Yna ymorchestodd y bwch gafr yn fwy byth, ond yn ei anterth torrwyd y corn mawr, a chododd pedwar corn amlwg yn ei le, yn wynebu tua phedwar gwynt y nefoedd.
9Ac allan o un ohonynt daeth corn bychan a dyfodd yn gryf tua'r de a'r dwyrain a'r wlad hyfryd.
10Dyrchafodd hwn at lu'r nef, a thaflu rhai o'r llu ac o'r s�r i'r llawr a'u mathru.
11Ym-chwyddodd yn erbyn tywysog y llu, a diddymu'r offrwm dyddiol a difetha'i gysegr.
12Mewn pechod gosodwyd llu yn erbyn yr offrwm dyddiol, a thaflu gwirionedd i'r llawr. Felly y llwyddodd yn y cwbl a wnaeth.
13Clywais un o'r rhai sanctaidd yn siarad, ac un arall yn dweud wrth yr un a siaradai, "Am ba hyd y pery'r weledigaeth o'r offrwm dyddiol, a'r pechod anrheithiol, a sarnu'r cysegr a'r llu?"
14Dywedodd wrtho, "Am ddwy fil tri chant o ddyddiau, hwyr a bore; yna fe adferir y cysegr."
15Ac fel yr oeddwn i, Daniel, yn edrych ar y weledigaeth ac yn ceisio'i deall, gwelwn un tebyg i fod dynol yn sefyll o'm blaen,
16a chlywais lais dynol yn galw dros afon Ulai ac yn dweud, "Gabriel, esbonia'r weledigaeth."
17Yna daeth Gabriel at y man lle'r oeddwn yn sefyll, a phan ddaeth, crynais mewn ofn a syrthio ar fy wyneb. Dywedodd wrthyf, "Deall, fab dyn, mai ag amser y diwedd y mae a wnelo'r weledigaeth."
18Wrth iddo siarad � mi, syrthiais ar fy hyd ar lawr mewn llewyg, ond cyffyrddodd ef � mi a'm gosod ar fy nhraed,
19a dweud, "Yn wir rhof wybod iti beth a ddigwydd pan ddaw'r llid i ben, oherwydd y mae i'r diwedd ei amser penodedig.
20Brenhinoedd Media a Persia yw'r hwrdd deugorn a welaist.
21Brenin Groeg yw'r bwch blewog, a'r corn mawr rhwng ei lygaid yw'r brenin cyntaf.
22A'r un a dorrwyd, a phedwar yn codi yn ei le, dyma bedair brenhiniaeth yn codi o'r un genedl, ond heb feddu'r un nerth ag ef.
23Ac ar ddiwedd eu teyrnasiad, pan fydd y troseddwyr yn eu hanterth, fe gyfyd brenin creulon a chyfrwys.
24Bydd ei nerth yn fawr, ac fe wna niwed anhygoel; fe lwydda yn yr hyn a wna, ac fe ddinistria'r cedyrn a phobl y saint.
25Yn ei gyfrwystra fe wna i ddichell ffynnu; cynllunia orchestion yn ei galon, a heb rybudd fe ddinistria lawer. Heria dywysog y tywysogion, ond fe'i torrir i lawr heb gymorth llaw.
26Y mae'r weledigaeth a roddwyd am yr hwyr a'r bore yn wir; ond cadw di'r weledigaeth dan s�l, am ei bod yn cyfeirio at y dyfodol pell."
27Yr oeddwn i, Daniel, wedi diffygio, a b�m yn glaf am ddyddiau. Yna codais i wasanaethu'r brenin, wedi fy syfrdanu gan y weledigaeth a heb ei deall.