Datguddiad Ioan 10:1-11 BCN1988 - Bible AI

1Yna gwelais angel nerthol arall yn disgyn o'r nef wedi ei wisgo � chwmwl, ac enfys ar ei ben. Yr oedd ei wyneb fel yr haul, a'i goesau fel colofnau o d�n.

2Yr oedd yn dal yn ei law sgr�l fechan wedi ei hagor. Gosododd ei droed dde ar y m�r a'r un chwith ar y tir.

3Yna gwaeddodd � llais uchel fel llew yn rhuo; a phan waeddodd, cododd y saith daran eu llef hwythau.

4Ac wedi i'r saith daran lefaru, yr oeddwn ar fin ysgrifennu; ond clywais lais o'r nef yn dweud, "Gosod y pethau a lefarodd y saith daran dan s�l; paid �'u hysgrifennu."

5A dyma'r angel a welais yn sefyll ar y m�r ac ar y tir yn codi ei law dde i'r nef

6ac yn tyngu yn enw'r hwn sydd yn byw byth bythoedd, yr hwn a greodd y nef a'r pethau sydd ynddi, y tir a'r pethau sydd ynddo, a'r m�r a'r pethau sydd ynddo. Dywedodd: "Ni bydd oedi mwy;

7ond yn nyddiau sain yr utgorn y mae'r seithfed angel i'w seinio, bydd bwriad dirgel Duw wedi ei ddwyn i ben, yn unol �'r newyddion da a gyhoeddodd i'w weision, y proffwydi."

8Yna'r llais a glywais o'r nef, fe'i clywais eto'n llefaru wrthyf gan ddweud, "Dos a chymer y sgr�l sy'n agored yn llaw'r angel sy'n sefyll ar y m�r ac ar y tir."

9Euthum at yr angel a dweud wrtho am roi'r sgr�l fechan imi, ac atebodd fi: "Cymer a bwyta hi; fe fydd hi'n chwerw i'th gylla, ond yn felys fel m�l yn dy enau."

10Cymerais y sgr�l fechan o law'r angel a'i bwyta hi, ac yr oedd yn felys fel m�l yn fy ngenau; ond wedi i mi ei bwyta aeth fy nghylla yn chwerw.

11A dywedwyd wrthyf, "Rhaid iti broffwydo eto ynghylch pobloedd a chenhedloedd ac ieithoedd a brenhinoedd lawer."

/article>