1Yr ydych i garu'r ARGLWYDD eich Duw a chadw ei ofynion, ei ddeddfau, ei gyfreithiau a'i orchmynion bob amser.
2Gwyddoch chwi heddiw am ddis-gyblaeth yr ARGLWYDD eich Duw, ond nid yw eich plant wedi ei brofi ef na'i weld, nac ychwaith ei fawredd, ei law gadarn a'i fraich estynedig; yr ydych chwi heddiw i'w cofio.
3Gwyddoch am ei arwyddion a'i weithredoedd a wnaeth ymhlith yr Eifftiaid, i'r Brenin Pharo ac i'w holl wlad,
4hefyd yr hyn a wnaeth i fyddin yr Aifft, ei meirch a'i cherbydau, pan barodd i ddyfroedd y M�r Coch lifo drostynt wrth iddynt eich ymlid, ac iddo'u difa hyd y dydd hwn.
5Gwyddoch hefyd yr hyn a wnaeth er eich mwyn yn yr anialwch nes ichwi ddod i'r lle hwn,
6a'r hyn a wnaeth i Dathan ac Abiram, meibion Eliab fab Reuben, pan agorodd y ddaear ei safn yng nghanol Israel gyfan a'u llyncu hwy a'u teuluoedd, eu pebyll a'r holl eiddo oedd yn perthyn iddynt.
7Fe welsoch chwi �'ch llygaid eich hunain yr holl weithredoedd mawr a wnaeth yr ARGLWYDD.
8Yr ydych i gadw pob gorchymyn yr wyf fi yn ei roi ichwi heddiw, er mwyn ichwi fod yn ddigon cryf i fynd i mewn ac etifeddu'r wlad yr ydych ar fynd drosodd i'w meddiannu;
9a hefyd er mwyn estyn eich oes yn y tir y tyngodd yr ARGLWYDD i'ch hynafiaid y byddai'n ei roi iddynt hwy a'u disgynyddion, gwlad yn llifeirio o laeth a m�l.
10Yn wir, nid yw'r wlad yr ydych ar ddod iddi i'w meddiannu yn debyg i wlad yr Aifft y daethoch allan ohoni, lle'r oeddech yn hau eich had ac yn ei ddyfrhau �'ch troed, fel gardd lysiau.
11Ond y mae'r wlad yr ydych ar fynd drosodd i'w meddiannu yn wlad o fynyddoedd a dyffrynnoedd, yn yfed du373?r o law y nefoedd.
12Tir y mae'r ARGLWYDD eich Duw yn gofalu amdano yw hwn, a'i lygaid yn wastad arno o ddechrau blwyddyn i'w diwedd.
13Ac os byddwch yn gwrando o ddifrif ar fy ngorch-mynion, yr wyf yn eu rhoi ichwi heddiw, i garu'r ARGLWYDD eich Duw a'i wasanaethu �'ch holl galon ac �'ch holl enaid,
14yna byddaf yn anfon glaw yn ei bryd ar gyfer eich tir yn yr hydref a'r gwanwyn, a byddwch yn medi eich u375?d, eich gwin newydd a'ch olew;
15rhof laswellt yn eich meysydd ar gyfer eich gwartheg, a chewch fwyta'ch gwala.
16Gwyliwch rhag ichwi gael eich arwain ar gyfeiliorn, a gwasanaethu duwiau estron a'u haddoli.
17Os felly, bydd dicter yr ARGLWYDD yn llosgi yn eich erbyn; bydd yn cau y nefoedd, fel na cheir glaw, ac ni fydd y tir yn rhoi ei gynnyrch, ac yn fuan byddwch chwithau'n darfod o'r wlad dda y mae'r ARGLWYDD ar fin ei rhoi ichwi.
18Am hynny gosodwch y geiriau hyn yn eich calon ac yn eich enaid, a'u rhwymo'n arwydd ar eich llaw, ac yn rhactalau rhwng eich llygaid.
19Dysgwch hwy i'ch plant, a'u crybwyll wrth eistedd yn y tu375? ac wrth gerdded ar y ffordd, wrth fynd i orwedd ac wrth godi;
20ysgrifennwch hwy ar byst eich tai ac yn eich pyrth,
21er mwyn i'ch dyddiau chwi a'ch plant amlhau yn y tir y tyngodd yr ARGLWYDD i'ch hynafiaid y byddai'n ei roi iddynt, tra bo nefoedd uwchlaw daear.
22Os byddwch yn ofalus i gadw'r cwbl yr wyf yn ei orchymyn ichwi, a charu'r ARGLWYDD eich Duw, a dilyn ei lwybrau ef i gyd, a glynu wrtho,
23yna bydd yr ARGLWYDD yn gyrru'r holl genhedloedd hyn allan o'ch blaen, a chewch feddiannu eiddo cenhedloedd mwy a chryfach na chwi.
24Eich eiddo chwi fydd pobman y bydd gwadn eich troed yn sengi arno, o'r anialwch hyd Lebanon, ac o'r afon, afon Ewffrates, hyd f�r y gorllewin; dyna fydd eich terfyn.
25Ni fydd neb yn medru eich gwrthsefyll; fel yr addawodd ichwi, bydd yr ARGLWYDD eich Duw yn peri i'ch arswyd a'ch dychryn fod dros wyneb yr holl dir a droediwch.
26Gwelwch, yr wyf yn gosod ger eich bron heddiw fendith a melltith:
27bendith os gwrandewch ar orchmynion yr ARGLWYDD eich Duw, yr wyf yn eu rhoi ichwi heddiw;
28ond melltith os na fyddwch yn gwrando ar orchmynion yr ARGLWYDD eich Duw, eithr yn troi o'r ffordd yr wyf fi yn ei gorchymyn ichwi heddiw, i ddilyn duwiau estron nad ydych yn eu hadnabod.
29A phan ddaw'r ARGLWYDD eich Duw � chwi i'r wlad yr ydych yn dod iddi i'w meddiannu, yna cyhoeddwch y fendith ar Fynydd Garisim a'r felltith ar Fynydd Ebal.
30Fel y gwyddoch, y mae'r rhain yr ochr draw i'r Iorddonen i'r gorllewin, tuag at fachlud haul, yn nhir y Canaaneaid sy'n byw yn yr Araba, gyferbyn � Gilgal ac yn ymyl deri More.
31Yr ydych ar fin croesi'r Iorddonen i ddod i feddiannu'r wlad y mae'r ARGLWYDD eich Duw yn ei rhoi ichwi; pan fyddwch wedi ei meddiannu a byw ynddi,
32gofalwch gadw'r holl ddeddfau a chyfreithiau a osodais ger eich bron heddiw.