1Pan fyddi'n mynd allan i ryfel yn erbyn dy elynion, ac yn canfod meirch a cherbydau a byddin, a'r rheini'n gryfach na'th rai di, paid �'u hofni, oherwydd gyda thi y mae yr ARGLWYDD dy Dduw, a ddaeth � thi i fyny o wlad yr Aifft.
2Wrth iti ddynesu i'r frwydr, y mae'r offeiriaid i ddod ymlaen ac annerch y fyddin,
3a dweud wrthynt, "Gwrandewch, Israel, yr ydych ar fin ymladd brwydr yn erbyn eich gelynion; peidiwch � gwangalonni nac ofni, na dychryn nac arswydo rhagddynt,
4oherwydd y mae'r ARGLWYDD eich Duw yn mynd gyda chwi, i frwydro trosoch yn erbyn eich gelynion, ac i'ch gwaredu."
5Yna bydd y swyddogion yn annerch ac yn dweud wrth y fyddin, "Pwy bynnag sydd wedi adeiladu tu375? newydd ond heb ei gysegru, aed yn ei �l adref, rhag iddo farw yn y frwydr ac i rywun arall ei gysegru.
6A phwy bynnag sydd wedi plannu gwinllan ond heb fwynhau ei ffrwyth, aed yn ei �l adref, rhag iddo farw yn y frwydr ac i rywun arall ei fwynhau.
7A phwy bynnag sydd wedi dywedd�o � merch ond heb ei phriodi, aed yn ei �l adref, rhag iddo farw yn y frwydr ac i rywun arall ei phriodi."
8Wedyn y mae'r swyddogion i ddweud ymhellach wrth y fyddin, "Pwy bynnag sy'n ofnus ac yn wangalon, aed yn ei �l adref, rhag iddo wanhau calonnau ei frodyr yr un modd."
9Wedi i'r swyddogion orffen annerch y fyddin, byddant yn gosod capteiniaid dros luoedd y fyddin.
10Pan fyddi ar fin brwydro yn erbyn tref, cynnig delerau heddwch iddi.
11Os derbyniant y telerau heddwch ac agor y pyrth iti, yna bydd pawb a geir ynddi yn gweithio iti dan lafur gorfod.
12Os na dderbyniant delerau heddwch, ond dechrau rhyfela yn dy erbyn, yna gwarchae ar y dref;
13a phan fydd yr ARGLWYDD dy Dduw wedi ei rhoi yn dy law, lladd bob gwryw ynddi �'r cleddyf.
14Ond cymer yn anrhaith y gwragedd, y plant, yr anifeiliaid a phopeth arall o ysbail sydd yn y dref; defnyddia i ti dy hun yr ysbail oddi wrth d'elynion y bydd yr ARGLWYDD dy Dduw wedi ei rhoi iti.
15Dyna sut y gwnei i'r holl drefi sydd ymhellach oddi wrthyt na rhai'r cenhedloedd gerllaw.
16Nid wyt i arbed unrhyw greadur byw yn ninasoedd y bobloedd hynny y mae'r ARGLWYDD dy Dduw yn eu rhoi iti'n etifeddiaeth.
17Yr wyt i lwyr ddifodi'r Hethiaid, Amoriaid, Canaaneaid, Peresiaid, Hefiaid a Jebusiaid, fel y gorchmynnodd yr ARGLWYDD dy Dduw,
18rhag iddynt dy ddysgu i wneud yr holl ffieidd-dra a wn�nt hwy er mwyn eu duwiau, ac i ti bechu yn erbyn yr ARGLWYDD dy Dduw.
19Pan fydd tref dan warchae gennyt am amser maith, a thithau'n ymladd i'w hennill, paid � difa ei choed trwy eu torri � bwyell. Cei fwyta o'u ffrwyth, ond paid �'u torri i lawr. Ai pobl yw coed y maes, iti osod gwarchae yn eu herbyn?
20Dim ond coeden y gwyddost nad yw'n dwyn ffrwyth y cei ei difa a'i thorri, er mwyn iti godi gwrthglawdd rhyngot a'r ddinas sy'n rhyfela yn dy erbyn, nes y bydd honno wedi ei gorchfygu.