Deuteronomium 25:1-19 BCN1988 - Bible AI

1Os bydd ymrafael rhwng dau, y maent i ddod �'r achos i lys barn, ac y mae'r barnwr i ddedfrydu, gan ddyfarnu o blaid y cyfiawn a chondemnio'r euog.

2Ac os yw'r euog yn haeddu ei fflangellu, y mae'r barnwr i beri iddo orwedd a derbyn yn ei u373?ydd y nifer o lachau sy'n briodol i'r trosedd.

3Nid ydynt i'w guro � mwy na deugain llach rhag iddo, o'i fflangellu lawer mwy na hyn, fynd yn wrthrych dirmyg yn d'olwg.

4Nid wyt i roi genfa am safn ych tra byddo'n dyrnu.

5Os bydd brodyr yn byw gyda'i gilydd ac un ohonynt yn marw'n ddi-blant, nid yw'r weddw i briodi estron o'r tu allan; y mae ei brawd-yng-nghyfraith i fynd i mewn ati a'i chymryd hi'n wraig iddo, a chyflawni dyletswydd.

6Bydd y mab cyntaf a enir iddi yn cymryd enw'r brawd a fu farw, rhag dileu ei enw o Israel.

7Ac os na bydd y dyn hwnnw'n dymuno priodi ei chwaer-yng-nghyfraith, aed honno i fyny i'r porth at yr henuriaid a dweud, "Y mae fy mrawd-yng-nghyfraith yn gwrthod sicrhau bod enw ei frawd yn parhau yn Israel; nid yw'n fodlon cyflawni dyletswydd brawd-yng-nghyfraith � mi."

8Yna y mae henuriaid ei dref i'w alw atynt a siarad ag ef; ac os yw'n para i ddweud, "Nid wyf yn dymuno ei phriodi",

9bydd ei chwaer-yng-nghyfraith yn dod ato yng ngu373?ydd yr henuriaid, yn tynnu ei sandal oddi ar ei droed, yn poeri yn ei wyneb ac yn cyhoeddi, "Dyma a wneir i'r dyn nad yw am adeiladu tu375? ei frawd."

10A bydd ei deulu'n cael ei adnabod drwy Israel fel teulu'r dyn y tynnwyd ei sandal.

11Os bydd dau gymydog yn ymladd �'i gilydd, a gwraig y naill yn dod i achub ei gu373?r rhag yr un sy'n ei daro, ac yn estyn ei llaw a chydio yng nghwd y llall,

12torrer ei llaw i ffwrdd; nid wyt i dosturio wrthi.

13Nid wyt i feddu pwysau anghyfartal yn dy god, un yn drwm a'r llall yn ysgafn.

14Nid wyt i feddu yn dy du375? fesurau anghyfartal, un yn fawr a'r llall yn fach.

15Y mae dy bwysau a'th fesurau i fod yn gyfain ac yn safonol, fel yr estynner dy ddyddiau yn y tir y mae'r ARGLWYDD dy Dduw yn ei roi iti.

16Oherwydd y mae pob un sy'n gwneud fel arall, ac yn gweithredu'n anonest, yn ffiaidd gan yr ARGLWYDD dy Dduw.

17Cofia'r hyn a wnaeth Amalec iti ar dy ffordd allan o'r Aifft;

18heb ofni Duw, daeth allan ac ymosod o'r tu cefn ar bawb oedd yn llusgo'n araf ar dy �l, pan oeddit yn lluddedig a diffygiol.

19Pan fydd yr ARGLWYDD dy Dduw wedi rhoi iti lonydd oddi wrth dy holl elynion o'th amgylch yn y wlad y mae'n ei rhoi iti i'w meddiannu'n etifeddiaeth, yr wyt i ddileu coffadwriaeth Amalec oddi tan y nef. Paid ag anghofio.

rticle>