Deuteronomium 33:1-29 BCN1988 - Bible AI

1Dyma'r fendith ar blant Israel a gyhoeddodd Moses gu373?r Duw, cyn ei farw:

2Cododd yr ARGLWYDD o Sinai a gwawriodd arnynt o Seir; disgleiriodd o Fynydd Paran a dod � myrddiynau o Cades, o'r de, o lethrau'r mynyddoedd.

3Yn ddiau, y mae'n caru ei bobl, a'i holl saint sydd yn ei law; plygant yn isel wrth ei draed a derbyn ei ddysgeidiaeth,

4y gyfraith a orchmynnodd Moses inni, yn etifeddiaeth i gynulliad Jacob.

5Gwnaed ef yn frenin ar Jesurun pan ymgasglodd penaethiaid y bobl, a phan ddaeth llwythau Israel ynghyd.

6Bydded Reuben fyw, ac nid marw, ond na foed ei dylwyth yn niferus.

7A dyma a ddywedodd am Jwda: Clyw, O ARGLWYDD, lef Jwda, a dwg ef at ei bobl; �'i ddwylo yr ymdrechodd � ond bydd di'n gymorth iddo rhag ei elynion.

8Dywedodd am Lefi: Rho i Lefi dy Twmim, a'th Wrim i'r un sy'n ffyddlon iti; fe'i profaist yn Massa, a dadlau ag ef wrth ddyfroedd Meriba.

9Fe ddywed am ei dad a'i fam, "Nid wyf yn eu hystyried", ac nid yw'n cydnabod ei frodyr nac yn arddel ei blant. Oherwydd bu'n cadw dy air ac yn gwarchod dy gyfamod.

10Y mae'n dysgu dy ddeddfau i Jacob a'th gyfraith i Israel. Y mae'n gosod arogldarth ger dy fron, a'r aberth llwyr ar dy allor.

11Bendithia, O ARGLWYDD, ei wrhydri, a derbyn waith ei ddwylo. Dryllia lwynau'r rhai sy'n codi yn ei erbyn, ac eiddo'i gaseion, rhag iddynt godi eto.

12Dywedodd am Benjamin: Bydded i anwylyd yr ARGLWYDD fyw mewn diogelwch; bydded i'r Goruchaf gysgodi drosto trwy'r dydd, a gwneud ei drigfan rhwng ei lechweddau.

13Dywedodd am Joseff: Bydded i'w dir gael ei fendithio gan yr ARGLWYDD � ffrwyth gorau'r nef, y gwlith, a du373?r o'r dyfnder isod;

14� chynnyrch gorau'r haul, a thwf gorau'r misoedd;

15� phrif gynnyrch y mynyddoedd hen, a ffrwythlondeb y bryniau oesol,

16� gorau'r ddaear a'i llawnder, a ffafr preswylydd y berth. Doed hyn i gyd ar ben Joseff, ar gopa'r un a neilltuwyd ymysg ei frodyr.

17Boed ei ysblander fel eiddo'r ych blaenaf, a'i gyrn fel cyrn ych gwyllt; bydd yn cornio'r bobloedd � hwy a'u gyrru hyd eithaf y ddaear. Rhai felly fydd myrddiynau Effraim, rhai felly fydd miloedd Manasse.

18Dywedodd am Sabulon: Llawenha, Sabulon, wrth fynd allan i ryfel, ac Issachar yn dy bebyll.

19Galwant bobloedd allan i'r mynydd-dir, ac yno offrymu aberthau cywir. Yn wir, c�nt sugno golud y m�r, a thrysorau wedi eu cuddio yn y tywod.

20Dywedodd am Gad: Bendith ar yr hwn sy'n peri i Gad ymestyn! Y mae fel llew yn ei diriogaeth, yn rhwygo ymaith fraich a chorun.

21Gofalodd am y gorau iddo'i hun; cadwyd cyfran llywodraethwr ar ei gyfer. Daeth � phenaethiaid y bobl allan; gweithredodd gyfiawnder yr ARGLWYDD, a'i ddeddfau ynglu375?n ag Israel.

22Dywedodd am Dan: Cenau llew yw Dan, yn neidio allan o Basan.

23Dywedodd am Nafftali: Cyflawn o hawddgarwch fydd Nafftali, a llawn o fendith yr ARGLWYDD; bydd ei etifeddiaeth at y m�r ac i'r de.

24Dywedodd am Aser: Bydded i Aser gael ei fendithio'n fwy na'r meibion eraill, a bod yn ffefryn gan ei frodyr, yn trochi ei droed mewn olew.

25Bydded dy farrau o haearn a phres, a'th gryfder yn cydredeg �'th ddyddiau.

26Nid oes tebyg i Dduw Jesurun, sy'n marchogaeth trwy'r nef i'th gynorthwyo, ac ar y cymylau yn ei ogoniant.

27Duw'r oesoedd yw dy noddfa, ac oddi tanodd y mae'r breichiau tragwyddol. Gyrrodd allan y gelyn o'th flaen, a dweud, "Difetha ef."

28Cafodd Israel fyw yn ddiogel, a Jacob drigo heb ymyrraeth, mewn gwlad o u375?d a gwin, a'i wybrennau'n diferu gwlith.

29Gwyn dy fyd, Israel! Pwy sydd debyg iti, yn bobl a waredir gan yr ARGLWYDD? Ef yw dy darian a'th gymorth, a chleddyf dy orfoledd hefyd. Bydd dy elynion yn ymostwng o'th flaen, a thithau'n sathru ar eu huchel-leoedd.

rticle>