Diarhebion 12:1-28 BCN1988 - Bible AI

1Y mae'r sawl sy'n caru disgyblaeth yn caru gwybodaeth, ond hurtyn sy'n cas�u cerydd.

2Y mae'r daionus yn ennill ffafr yr ARGLWYDD, ond condemnir y dichellgar.

3Ni ddiogelir neb trwy ddrygioni, ac ni ddiwreiddir y cyfiawn.

4Y mae gwraig fedrus yn goron i'w gu373?r, ond un ddigywilydd fel pydredd yn ei esgyrn.

5Y mae bwriadau'r cyfiawn yn gywir, ond cynlluniau'r drygionus yn dwyllodrus.

6Cynllwyn i dywallt gwaed yw geiriau'r drygionus, ond y mae ymadroddion y cyfiawn yn eu gwaredu.

7Dymchwelir y drygionus, a derfydd amdanynt, ond saif tu375?'r cyfiawn yn gadarn.

8Canmolir rhywun ar sail ei ddeall, ond gwawdir y meddwl tro�dig.

9Gwell bod yn ddiymhongar ac yn ennill tamaid, na bod yn ymffrostgar a heb fwyd.

10Y mae'r cyfiawn yn ystyriol o'i anifail, ond y mae'r drygionus yn ddidostur.

11Y mae'r un sy'n trin ei dir yn cael digon o fwyd, ond y mae'r sawl sy'n dilyn oferedd yn ddisynnwyr.

12Blysia'r drygionus am ysbail drygioni, ond y mae gwreiddyn y cyfiawn yn sicr.

13Meglir y drwg gan dramgwydd ei eiriau, ond dianc y cyfiawn rhag adfyd.

14Trwy ffrwyth ei eiriau y digonir pob un � daioni, a thelir iddo yn �l yr hyn a wnaeth.

15Y mae ffordd y ff�l yn iawn yn ei olwg, ond gwrendy'r doeth ar gyngor.

16Buan y dengys y ff�l ei fod wedi ei gythruddo, ond y mae'r call yn anwybyddu sarhad.

17Y mae tyst gonest yn dweud y gwir, ond celwydd a draetha'r gau dyst.

18Y mae geiriau'r straegar fel brath cleddyf, ond y mae tafod y doeth yn iach�u.

19Erys geiriau gwir am byth, ond ymadrodd celwyddog am eiliad.

20Dichell sydd ym meddwl y rhai sy'n cynllwynio drwg, ond daw llawenydd i'r rhai sy'n cynllunio heddwch.

21Ni ddaw unrhyw niwed i'r cyfiawn, ond bydd y drygionus yn llawn helbul.

22Y mae geiriau twyllodrus yn ffiaidd gan yr ARGLWYDD, ond y mae'r rhai sy'n gweithredu'n gywir wrth ei fodd.

23Y mae'r call yn cuddio'i wybodaeth, ond ffyliaid yn cyhoeddi eu ffolineb.

24Yn llaw y rhai diwyd y mae'r awdurdod, ond y mae diogi yn arwain i gaethiwed.

25Y mae pryder meddwl yn llethu rhywun, ond llawenheir ef gan air caredig.

26Y mae'r cyfiawn yn cilio oddi wrth ddrwg, ond y mae ffordd y drygionus yn eu camarwain.

27Ni fydd y diogyn yn rhostio'i helfa, ond gan y diwyd bydd golud mawr.

28Ar ffordd cyfiawnder y mae bywyd, ac nid oes marwolaeth yn ei llwybrau.

cle>