1Fy mab, os derbynni fy ngeiriau, a thrysori fy ngorchmynion,
2a gwrando'n astud ar ddoethineb, a rhoi dy feddwl ar ddeall;
3os gelwi am ddeall, a chodi dy lais am wybodaeth,
4a chwilio amdani fel am arian, a chloddio amdani fel am drysor �
5yna cei ddeall ofn yr ARGLWYDD, a chael gwybodaeth o Dduw.
6Oherwydd yr ARGLWYDD sy'n rhoi doethineb, ac o'i enau ef y daw gwybodaeth a deall.
7Y mae'n trysori craffter i'r uniawn; y mae'n darian i'r rhai a rodia'n gywir.
8Y mae'n diogelu llwybrau cyfiawnder, ac yn gwarchod ffordd ei ffyddloniaid.
9Yna byddi'n deall cyfiawnder a barn, ac uniondeb a phob ffordd dda;
10oherwydd bydd doethineb yn dod i'th feddwl, a deall yn rhoi pleser iti.
11Bydd pwyll yn dy amddiffyn, a deall yn dy warchod,
12ac yn dy gadw rhag ffordd drygioni, a rhag y rhai sy'n siarad yn dwyllodrus �
13y rhai sy'n gadael y ffordd iawn i rodio yn llwybrau tywyllwch,
14sy'n cael pleser mewn gwneud drwg a mwynhad mewn twyll,
15y rhai y mae eu ffordd yn gam a'u llwybrau'n droellog.
16Fe'th geidw oddi wrth y wraig ddieithr, a rhag y ddynes estron a'i geiriau dengar,
17sydd wedi gadael cymar ei hieuenctid, ac wedi anghofio cyfamod ei Duw.
18Oherwydd y mae ei thu375? yn gwyro at angau, a'i llwybrau at y cysgodion.
19Ni ddaw neb sy'n mynd ati yn ei �l, ac ni chaiff ailafael ar lwybrau bywyd.
20Felly gofala di rodio yn ffyrdd y da, a chadw at lwybrau'r cyfiawn.
21Oherwydd y rhai cyfiawn a drig yn y tir, a'r rhai cywir a gaiff aros ynddo;
22ond torrir y rhai drwg o'r tir, a diwreiddir y twyllwyr ohono.