1Gwatwarwr yw gwin, a therfysgwr yw diod gadarn; nid doeth mo'r sawl sydd dan eu dylanwad.
2Y mae bygythiad brenin fel rhuad llew ifanc; y mae'r sawl a'i cynhyrfa'n peryglu ei fywyd.
3Clod i bob un yw gwrthod cweryla, ond rhuthro i ymryson a wna pob ynfytyn.
4Nid yw'r diog yn aredig yn yr hydref; eto y mae'n disgwyl yn amser cynhaeaf, heb ddim i'w gael.
5Y mae cyngor yn y meddwl fel dyfroedd dyfnion, ond gall dyn deallus ei dynnu allan.
6Y mae llawer un yn honni bod yn deyrngar, ond pwy a all gael dyn ffyddlon?
7Y mae'r cyfiawn yn rhodio'n gywir; gwyn eu byd ei blant ar ei �l!
8Y mae brenin sy'n eistedd ar orsedd barn yn gallu nithio pob drwg �'i lygaid.
9Pwy a all ddweud, "Yr wyf wedi puro fy meddwl; yr wyf yn l�n o'm pechod"?
10Pan geir amrywiaeth mewn pwysau neu fesurau, y mae'r naill a'r llall yn ffiaidd gan yr ARGLWYDD.
11Trwy ei weithredoedd y dengys yr ifanc a yw ei waith yn bur ac yn uniawn.
12Y glust sy'n clywed a'r llygad sy'n gweld, yr ARGLWYDD a'u gwnaeth ill dau.
13Paid � bod yn hoff o gysgu, rhag iti fynd yn dlawd; cadw dy lygad yn agored, a chei ddigon o fwyd.
14Gwael iawn," meddai'r prynwr; ond wrth fynd ymaith, y mae'n canmol ei fargen.
15Y mae digonedd o aur ac o emau, ond geiriau deallus yw'r trysor gwerthfawrocaf.
16Cymer wisg y sawl sy'n mechn�o dros estron, a chadw hi'n ernes o'i addewid ar ran dieithryn.
17Melys i rywun yw bara a gafwyd trwy dwyll, ond yn y diwedd llenwir ei geg � graean.
18Sicrheir cynlluniau trwy gyngor; rhaid trefnu'n ofalus ar gyfer rhyfel.
19Y mae'r straegar yn bradychu cyfrinach; paid � chyfeillachu �'r llac ei dafod.
20Os bydd rhywun yn melltithio ei dad a'i fam, diffoddir ei oleuni mewn tywyllwch dudew.
21Os ceir etifeddiaeth sydyn yn y dechrau, ni bydd bendith ar ei diwedd.
22Paid � dweud, "Talaf y pwyth yn �l"; disgwyl wrth yr ARGLWYDD i achub dy gam.
23Ffiaidd gan yr ARGLWYDD yw amrywiaeth mewn pwysau, ac nid da ganddo gloriannau twyllodrus.
24Yr ARGLWYDD sy'n rheoli camre pobl; sut y gall neb ddeall ei ffordd?
25Gall rhywun fynd i fagl wrth gysegru'n fyrbwyll, ac yna dechrau ystyried ar �l gwneud addunedau.
26Y mae brenin doeth yn nithio'r drygionus, ac yn troi'r rhod yn eu herbyn.
27Llewyrcha'r ARGLWYDD ar ysbryd pobl, i chwilio i ddyfnderau eu bod.
28Y mae teyrngarwch a chywirdeb yn gwarchod y brenin, a diogelir ei orsedd gan deyrngarwch.
29Gogoniant yr ifainc yw eu nerth, ac addurn i'r hen yw penwynni.
30Y mae taro i'r byw yn gwella drwg, a dyrnodiau yn iach�u rhywun drwyddo.