1Y mae calon brenin yn llaw'r ARGLWYDD fel ffrwd o ddu373?r; fe'i try i ble bynnag y dymuna.
2Y mae ffyrdd pob un i gyd yn uniawn yn ei olwg ei hun, ond y mae'r ARGLWYDD yn cloriannu'r galon.
3Y mae gwneud cyfiawnder a barn yn fwy derbyniol gan yr ARGLWYDD nag aberth.
4Llygaid balch a chalon ymffrostgar, dyma nodau'r drygionus, ac y maent yn bechod.
5Y mae cynlluniau'r diwyd yn sicr o arwain i ddigonedd, ond daw angen ar bob un sydd mewn brys.
6Y mae trysorau wedi eu hennill trwy gelwydd fel tarth yn diflannu neu fagl marwolaeth.
7Rhwydir y rhai drygionus gan eu trais, am iddynt wrthod gwneud yr hyn sydd uniawn.
8Troellog yw ffordd y troseddwr, ond uniawn yw gweithred y didwyll.
9Gwell yw byw mewn congl ar ben tu375? na rhannu cartref gyda gwraig gecrus.
10Y mae'r drygionus yn awchu am wneud drwg; nid yw'n edrych yn drugarog ar ei gymydog.
11Pan gosbir gwatwarwr, daw'r gwirion yn ddoeth; ond pan ddysgir gwers i'r doeth, daw ef ei hun i ddeall.
12Y mae'r Un Cyfiawn yn sylwi ar du375?'r drygionus; y mae'n bwrw'r rhai drwg i ddinistr.
13Os bydd rhywun yn fyddar i gri'r tlawd, ni chaiff ei ateb pan fydd yntau'n galw.
14Y mae rhodd ddirgel yn lliniaru dig, a chil-dwrn dan glogyn yn tawelu llid mawr.
15Caiff y cyfiawn lawenydd wrth wneud cyfiawnder, ond daw dinistr ar y rhai sy'n gwneud drwg.
16Bydd rhywun sy'n troi oddi ar ffordd deall yn gorffwys yng nghwmni'r meirw.
17Mewn angen y bydd y sawl sy'n caru pleser, ac ni ddaw'r sawl sy'n hoffi gwin ac olew yn gyfoethog.
18Y mae'r drygionus yn bridwerth dros y cyfiawn, a'r twyllwr dros y rhai uniawn.
19Gwell byw mewn anialwch na chyda gwraig gecrus a dicllon.
20Yn nhu375?'r doeth y mae trysor dymunol ac olew, ond y mae'r ff�l yn eu difa.
21Y mae'r sawl sy'n dilyn cyfiawnder a theyrngarwch yn cael bywyd llwyddiannus ac anrhydedd.
22Y mae'r doeth yn gallu mynd i ddinas gadarn a bwrw i lawr y gaer yr ymddiriedir ynddi.
23Y sawl sy'n gwylio ei enau a'i dafod, fe'i ceidw ei hun rhag gofidiau.
24Y mae'r balch yn ffroenuchel; gwatwarwr yw ei enw, gweithreda yn gwbl drahaus.
25Y mae blys y diog yn ei ladd, am fod ei ddwylo'n gwrthod gweithio.
26Trachwantu y mae'r annuwiol bob amser, ond y mae'r cyfiawn yn rhoi heb arbed.
27Ffiaidd yw aberth y drygionus, yn enwedig pan offrymir ef mewn dichell.
28Difethir y tyst celwyddog, ond y mae'r tyst cywir yn cael llefaru.
29Y mae'r drygionus yn caledu ei wyneb, ond yr uniawn yn trefnu ei ffyrdd.
30Nid yw doethineb na deall na chyngor yn ddim o flaen yr ARGLWYDD.
31Er paratoi march ar gyfer dydd brwydr, eto eiddo'r ARGLWYDD yw'r fuddugoliaeth.