Diarhebion 22:1-29 BCN1988 - Bible AI

1Mwy dymunol yw enw da na chyfoeth lawer, a gwell yw parch nag arian ac aur.

2Y mae un peth yn gyffredin i gyfoethog a thlawd: yr ARGLWYDD a'u creodd ill dau.

3Y mae'r craff yn gweld perygl ac yn ei osgoi, ond y gwirion yn mynd rhagddo ac yn talu am hynny.

4Gwobr gostyngeiddrwydd ac ofn yr ARGLWYDD yw cyfoeth, anrhydedd a bywyd.

5Y mae drain a maglau ar ffordd y gwrthnysig, ond y mae'r un gwyliadwrus yn cadw draw oddi wrthynt.

6Hyffordda blentyn ar ddechrau ei daith, ac ni thry oddi wrthi pan heneiddia.

7Y mae'r cyfoethog yn rheoli'r tlawd, ac y mae'r benthyciwr yn was i'r echwynnwr.

8Y mae'r un sy'n hau anghyfiawnder yn medi gofid, a bydd gwialen ei ymffrost yn methu.

9Bendithir yr un hael am ei fod yn rhannu ei fara i'r tlawd.

10Bwrw allan y gwatwarwr, a cheir terfyn ar ymryson, a diwedd ar ddadlau a gwawd.

11Yr un sy'n hoffi purdeb meddwl a geiriau grasol, y mae ef yn gyfaill i frenin.

12Y mae llygaid yr ARGLWYDD yn gwarchod deall, ond y mae ef yn dymchwel geiriau twyllwr.

13Dywed y diog, "Y mae llew y tu allan; fe'm lleddir yn y stryd."

14Y mae genau'r wraig ddieithr fel pwll dwfn; y mae'r un a ddigiodd yr ARGLWYDD yn syrthio iddo.

15Y mae ffolineb ynghlwm wrth feddwl plentyn, ond y mae gwialen disgyblaeth yn ei yrru oddi wrtho.

16Y sawl sy'n gorthrymu'r tlawd i geisio elw iddo'i hun, ac yn rhoi i'r cyfoethog, bydd hwnnw'n diweddu mewn angen.

17Rho sylw, a gwrando ar eiriau'r doethion, a gosod dy feddwl ar fy neall;

18oherwydd y mae'n werth iti eu cadw yn dy galon, ac iddynt oll gael eu sicrhau ar dy wefusau.

19Er mwyn i ti roi dy hyder yn yr ARGLWYDD yr wyf yn eu dysgu iti heddiw � ie, i ti!

20Onid wyf wedi ysgrifennu iti ddeg ar hugain o ddywediadau, yn llawn cyngor a deall,

21i ddysgu iti wirionedd geiriau cywir, fel y gelli roi ateb cywir i'r rhai a'th anfonodd?

22Paid ag ysbeilio'r tlawd am ei fod yn dlawd, a phaid � sathru'r anghenus yn y porth;

23oherwydd bydd yr ARGLWYDD yn dadlau eu hachos, ac yn difetha'r rhai sy'n eu difetha hwy.

24Paid � chyfeillachu � neb a chanddo dymer ddrwg, nac aros yng nghwmni'r dicllon,

25rhag iti ddysgu ei ffordd, a'th gael dy hun mewn magl.

26Paid � rhoi gwystl, a mynd yn feichiau am ddyledion;

27os na fydd gennyt ddim i dalu, oni chymerir dy wely oddi arnat?

28Paid � symud yr hen derfynau a osodwyd gan dy hynafiaid.

29Gwelaist un medrus yn ei waith; bydd yn gwasanaethu brenhinoedd, ond ni fydd yn gwasanaethu pobl ddibwys.

cle>