1Paid � chenfigennu wrth bobl ddrwg, na dymuno bod yn eu cwmni;
2oherwydd y maent hwy'n meddwl am drais, a'u genau'n s�n am drybini.
3Fe adeiledir tu375? trwy ddoethineb, a'i sicrhau trwy wybodaeth.
4Trwy ddeall y llenwir ystafelloedd � phob eiddo gwerthfawr a dymunol.
5Y mae'r doeth yn fwy grymus na'r cryf, a'r un deallus na'r un nerthol;
6oherwydd gelli drefnu dy frwydr � medrusrwydd, a chael buddugoliaeth � llawer o gynghorwyr.
7Y mae doethineb allan o gyrraedd y ffu373?l; nid yw'n agor ei geg yn y porth.
8Bydd yr un sy'n cynllunio i wneud drwg yn cael ei alw yn ddichellgar.
9Y mae dichell y ffu373?l yn bechod, ac y mae pobl yn ffieiddio'r gwatwarwr.
10Os torri dy galon yn nydd cyfyngder, yna y mae dy nerth yn wan.
11Achub y rhai a ddygir i farwolaeth; rho gymorth i'r rhai a lusgir i'w lladd.
12Os dywedi, "Ni wyddem ni am hyn", onid yw'r un sy'n pwyso'r galon yn deall? Y mae'r un sy'n dy wylio yn gwybod, ac yn talu i bob un yn �l ei waith.
13Fy mab, bwyta f�l, oherwydd y mae'n dda, ac y mae diliau m�l yn felys i'th enau.
14Felly y mae deall a doethineb i'th fywyd; os cei hwy, yna y mae iti ddyfodol, ac ni thorrir ymaith dy obaith.
15Paid � llechu fel drwgweithredwr wrth drigfan y cyfiawn, a phaid ag ymosod ar ei gartref.
16Er i'r cyfiawn syrthio seithwaith, eto fe gyfyd; ond fe feglir y drygionus gan adfyd.
17Paid � llawenhau pan syrth dy elyn, nac ymfalch�o pan feglir ef,
18rhag i'r ARGLWYDD weld, a bod yn anfodlon, a throi ei ddig oddi wrtho.
19Na fydd ddig wrth y rhai drygionus, na chenfigennu wrth y rhai sy'n gwneud drwg.
20Oherwydd nid oes dyfodol i neb drwg, a diffoddir goleuni'r drygionus.
21Fy mab, ofna'r ARGLWYDD a'r brenin; paid � bod yn anufudd iddynt,
22oherwydd fe ddaw dinistr sydyn oddi wrthynt, a phwy a u373?yr y distryw a achosant ill dau?
23Dyma hefyd eiriau'r doethion: Nid yw'n iawn dangos ffafr mewn barn.
24Pwy bynnag a ddywed wrth yr euog, "Yr wyt yn ddieuog", fe'i melltithir gan bobloedd a'i gollfarnu gan genhedloedd.
25Ond caiff y rhai sy'n eu ceryddu foddhad, a daw gwir fendith arnynt.
26Y mae rhoi ateb gonest fel rhoi cusan ar wefusau.
27Rho drefn ar dy waith y tu allan, a threfna'r hyn sydd yn dy gae, ac yna adeilada dy du375?.
28Paid � thystio yn erbyn dy gymydog yn ddiachos, na thwyllo �'th eiriau.
29Paid � dweud, "Gwnaf iddo fel y gwnaeth ef i mi; talaf iddo yn �l ei weithred."
30Euthum heibio i faes un diog, ac i winllan un disynnwyr,
31a sylwais eu bod yn llawn drain, a danadl drostynt i gyd, a'u mur o gerrig wedi ei chwalu.
32Edrychais arnynt ac ystyried; sylwais a dysgu gwers:
33ychydig gwsg, ychydig hepian, ychydig blethu dwylo i orffwys,
34a daw tlodi atat fel dieithryn creulon, ac angen fel gu373?r arfog.