Diarhebion 29:1-27 BCN1988 - Bible AI

1Bydd un sy'n ystyfnigo trwy ei geryddu'n fynych yn cael ei ddryllio'n sydyn heb fodd i'w adfer.

2Pan fydd y cyfiawn yn llywodraethu, llawenha'r bobl, ond pan fydd y drygionus yn rheoli, bydd y bobl yn griddfan.

3Y mae'r un sy'n caru doethineb yn rhoi llawenydd i'w dad, ond y mae'r un sy'n cyfeillachu � phuteiniaid yn gwastraffu ei eiddo.

4Y mae brenin yn rhoi cadernid i wlad trwy gyfiawnder, ond y mae'r un sy'n codi trethi yn ei difa.

5Y mae'r sawl sy'n gwenieithio wrth ei gyfaill yn taenu rhwyd i'w draed.

6Rhwydir y drygionus gan gamwedd, ond y mae'r cyfiawn yn canu'n llawen.

7Y mae'r cyfiawn yn gwybod hawliau'r tlodion, ond nid yw'r drygionus yn ystyried deall.

8Y mae'r gwatwarwyr yn creu cyffro mewn dinas, ond y mae'r doethion yn tawelu dicter.

9Os � un doeth i gyfraith � ffu373?l, bydd y ffu373?l yn cythruddo ac yn gwawdio, ac ni cheir llonyddwch.

10Y mae rhai gwaedlyd yn cas�u'r un cywir, ond y mae'r rhai cyfiawn yn diogelu ei fywyd.

11Y mae'r ffu373?l yn arllwys ei holl ddig, ond y mae'r doeth yn ei gadw dan reolaeth.

12Os yw llywodraethwr yn gwrando ar gelwydd, bydd ei holl weision yn ddrygionus.

13Y mae hyn yn gyffredin i'r tlawd a'r gormeswr: yr ARGLWYDD sy'n goleuo llygaid y ddau.

14Os yw brenin yn barnu'r tlodion yn gywir, yna fe sefydlir ei orsedd am byth.

15Y mae gwialen a cherydd yn rhoi doethineb, ond y mae plentyn afreolus yn dwyn gwarth ar ei fam.

16Pan amlha'r drygionus, bydd camwedd yn cynyddu, ond bydd y cyfiawn yn edrych ar eu cwymp.

17Disgybla dy fab, a daw � chysur iti, a rhydd lawenydd iti yn dy fywyd.

18Lle na cheir gweledigaeth, bydd y bobl ar chw�l; ond gwyn ei fyd y sawl sy'n cadw'r gyfraith.

19Nid � geiriau yn unig y disgyblir gwas; er iddo ddeall, nid yw'n ymateb.

20Fe welaist un sy'n eiddgar i siarad; y mae mwy o obaith i'r ffu373?l nag iddo ef.

21Wrth faldodi gwas o'i lencyndod, bydd yn troi'n anniolchgar yn y diwedd.

22Codi cynnen y mae rhywun cas, ac un dicllon yn ychwanegu camwedd.

23Y mae balchder unrhyw un yn ei ddarostwng, ond y mae'r gostyngedig yn cael anrhydedd.

24Gelyn iddo'i hun yw'r sawl sy'n rhannu � lleidr; y mae'n clywed y felltith, ond heb ddweud dim.

25Magl yw ofni pobl, ond diogel yw'r un sy'n ymddiried yn yr ARGLWYDD.

26Y mae llawer yn ceisio ffafr llywodraethwr, ond oddi wrth yr ARGLWYDD y daw cyfiawnder.

27Y mae'r cyfiawn yn ffieiddio'r anghyfiawn, a'r drygionus yn ffieiddio'r uniawn ei ffordd.

cle>