Diarhebion 3:1-35 BCN1988 - Bible AI

1Fy mab, paid ag anghofio fy nghyfarwyddyd; cadw fy ngorchmynion yn dy gof.

2Oherwydd ychwanegant at nifer dy ddyddiau a rhoi blynyddoedd o fywyd a llwyddiant.

3Paid � gollwng gafael ar deyrngarwch a ffyddlondeb; rhwym hwy am dy wddf, ysgrifenna hwy ar lech dy galon;

4a byddi'n ennill ffafr ac enw da yng ngolwg Duw a dynion.

5Ymddiried yn llwyr yn yr ARGLWYDD, a phaid � dibynnu ar dy ddeall dy hun.

6Cydnabydda ef yn dy holl ffyrdd, bydd ef yn sicr o gadw dy lwybrau'n union.

7Paid � bod yn ddoeth yn dy olwg dy hun; ofna'r ARGLWYDD, a chilia oddi wrth ddrwg.

8Bydd hyn yn iechyd i'th gorff, ac yn faeth i'th esgyrn.

9Anrhydedda'r ARGLWYDD �'th gyfoeth, ac � blaenffrwyth dy holl gynnyrch.

10Yna bydd dy ysguboriau'n orlawn, a'th gafnau'n gorlifo gan win.

11Fy mab, paid � diystyru disgyblaeth yr ARGLWYDD, a phaid � digio wrth ei gerydd;

12oherwydd ceryddu'r un a g�r y mae'r ARGLWYDD, fel tad sy'n hoff o'i blentyn.

13Gwyn ei fyd y sawl a gafodd ddoethineb, a'r un sy'n berchen deall.

14Y mae mwy o elw ynddi nag mewn arian, a'i chynnyrch yn well nag aur.

15Y mae'n fwy gwerthfawr na gemau, ac nid yw dim a ddymuni yn debyg iddi.

16Yn ei llaw dde y mae hir oes, a chyfoeth ac anrhydedd yn ei llaw chwith.

17Ffyrdd hyfryd yw ei ffyrdd, a heddwch sydd ar ei holl lwybrau.

18Y mae'n bren bywyd i'r neb a gydia ynddi, a dedwydd yw'r rhai sy'n glynu wrthi.

19Trwy ddoethineb y sylfaenodd yr ARGLWYDD y ddaear, ac � deall y sicrhaodd y nefoedd;

20trwy ei ddeall y ffrydiodd y dyfnderau, ac y defnynna'r cymylau wlith.

21Fy mab, dal d'afael ar graffter a phwyll; paid �'u gollwng o'th olwg;

22byddant yn iechyd i'th enaid, ac yn addurn am dy wddf.

23Yna cei gerdded ymlaen heb bryder, ac ni fagla dy droed.

24Pan eisteddi, ni fyddi'n ofni, a phan orweddi, bydd dy gwsg yn felys.

25Paid ag ofni rhag unrhyw ddychryn disymwth, na dinistr y drygionus pan ddaw;

26oherwydd bydd yr ARGLWYDD yn hyder iti, ac yn cadw dy droed rhag y fagl.

27Paid � gwrthod cymwynas i'r sawl sy'n ei haeddu, os yw yn dy allu i'w gwneud.

28Paid � dweud wrth dy gymydog, "Tyrd yn d'�l eto, ac fe'i rhoddaf iti yfory", er ei fod gennyt yn awr.

29Paid � chynllunio drwg yn erbyn dy gymydog, ac yntau'n ymddiried ynot.

30Paid � chweryla'n ddiachos ag unrhyw un, ac yntau heb wneud cam � thi.

31Paid � chenfigennu wrth ormeswr, na dewis yr un o'i ffyrdd.

32Oherwydd y mae'r ARGLWYDD yn ffieiddio'r cyfeiliornus, ond yn rhannu ei gyfrinach �'r uniawn.

33Y mae melltith yr ARGLWYDD ar du375?'r drygionus, ond y mae'n bendithio trigfa'r cyfiawn.

34Er iddo ddirmygu'r dirmygwyr, eto fe rydd ffafr i'r gostyngedig.

35Etifedda'r doeth anrhydedd, ond y ffyliaid bentwr o warth.

le>