1Fy mab, rho sylw i'm doethineb, a gwrando ar fy neall,
2er mwyn iti ddal ar synnwyr ac i'th wefusau ddiogelu deall.
3Y mae gwefusau'r wraig ddieithr yn diferu m�l, a'i geiriau yn llyfnach nag olew,
4ond yn y diwedd y mae'n chwerwach na wermod, yn llymach na chleddyf daufiniog.
5Prysura ei thraed at farwolaeth, ac arwain ei chamre i Sheol.
6Nid yw hi'n ystyried llwybr bywyd; y mae ei ffyrdd yn anwadal, a hithau'n ddi-hid.
7Ond yn awr, blant, gwrandewch arnaf, a pheidiwch � throi oddi wrth fy ymadroddion.
8Cadw draw oddi wrth ei ffordd; paid � mynd yn agos at ddrws ei thu375?;
9rhag iti roi dy enw da i eraill a'th urddas i estroniaid,
10a rhag i ddieithriaid ymborthi ar dy gyfoeth ac i'th lafur fynd i du375? estron;
11rhag iti gael gofid pan ddaw dy ddiwedd, pan fydd dy gorff a'th gnawd yn darfod,
12a dweud, "Pam y bu imi gas�u disgyblaeth, ac anwybyddu cerydd?
13Nid oeddwn yn gwrando ar lais fy athrawon, nac yn rhoi sylw i'r rhai a'm dysgai.
14Yr oeddwn ar fin bod yn gwbl ddrwg yng ngolwg y gynulleidfa gyfan."
15Yf ddu373?r o'th bydew dy hun, du373?r sy'n tarddu o'th ffynnon di.
16Paid � gadael i'th ffynhonnau orlifo i'r ffordd, na'th ffrydiau du373?r i'r stryd.
17Byddant i ti dy hun yn unig, ac nid i'r dieithriaid o'th gwmpas.
18Bydded bendith ar dy ffynnon, a llawenha yng ngwraig dy ieuenctid,
19ewig hoffus, iyrches ddymunol; bydded i'w bronnau dy foddhau bob amser, a chymer bleser o'i chariad yn gyson.
20Fy mab, pam y ceisi bleser gyda gwraig ddieithr, a chofleidio estrones?
21Oherwydd y mae'r ARGLWYDD yn gwylio ffyrdd pob un, ac yn chwilio ei holl lwybrau.
22Delir y drygionus gan ei gamwedd ei hun, ac fe'i caethiwir yng nghadwynau ei bechod;
23bydd farw o ddiffyg disgyblaeth, ar goll oherwydd ei ffolineb mawr.