1Fy mab, os rhoddaist wystl i'th gymydog, neu fynd yn feichiau i ddieithryn,
2a chael dy rwymo gan dy eiriau dy hun, a'th ddal gan eiriau dy enau,
3yna gweithreda fel hyn, fy mab, ac achub dy hun: gan dy fod yn llaw dy gymydog, dos ar frys ac ymbil �'th gymydog;
4paid � rhoi cwsg i'th lygaid na gorffwys i'th amrannau;
5achub dy hun fel ewig o afael yr heliwr, neu aderyn o law yr adarwr.
6Ti ddiogyn, dos at y morgrugyn, a sylwa ar ei ffordd a bydd ddoeth.
7Er nad oes ganddo arweinydd na rheolwr na llywodraethwr,
8y mae'n darparu ei gynhaliaeth yn yr haf, yn casglu ei fwyd amser cynhaeaf.
9O ddiogyn, am ba hyd y byddi'n gorweddian? Pa bryd y codi o'th gwsg?
10Ychydig gwsg, ychydig hepian, ychydig blethu dwylo i orffwys,
11a daw tlodi arnat fel dieithryn creulon, ac angen fel gu373?r arfog.
12Un dieflig, un drwg, sy'n taenu geiriau dichellgar,
13yn wincio �'i lygad, yn pwnio �'i droed, ac yn gwneud arwyddion �'i fysedd.
14Ei fwriad yw gwyrdroi, cynllunio drwg yn wastad, a chreu cynnen.
15Am hynny daw dinistr arno yn ddisymwth; fe'i dryllir yn sydyn heb fodd i'w arbed.
16Chwe pheth sy'n gas gan yr ARGLWYDD, saith peth sy'n ffiaidd ganddo:
17llygaid balch, tafod ffals, dwylo'n tywallt gwaed dieuog,
18calon yn cynllunio oferedd, traed yn prysuro i wneud drwg,
19gau dyst yn dweud celwydd, ac un sy'n codi cynnen rhwng perthnasau.
20Fy mab, cadw orchymyn dy dad; paid ag anwybyddu cyfarwyddyd dy fam;
21clyma hwy'n wastad yn dy galon, rhwym hwy am dy wddf.
22Fe'th arweiniant ple bynnag yr ei, a gwylio drosot pan orffwysi, ac ymddiddan � thi pan gyfodi.
23Oherwydd y mae gorchymyn yn llusern, a chyfarwyddyd yn oleuni, a cherydd disgyblaeth yn arwain i fywyd,
24ac yn dy gadw rhag gwraig cymydog a rhag gweniaith y ddynes estron.
25Paid � chwennych ei phrydferthwch, a phaid � gadael i'w chiledrychiad dy ddal;
26oherwydd gellir cael putain am bris torth, ond y mae gwraig rhywun arall yn chwilio am fywyd brasach.
27A all dyn gofleidio t�n yn ei fynwes heb losgi ei ddillad?
28A all dyn gerdded ar farwor heb losgi ei draed?
29Felly y bydd yr un sy'n mynd at wraig ei gymydog; ni all unrhyw un gyffwrdd � hi heb gosb.
30Oni ddirmygir lleidr pan fo'n dwyn i foddhau ei chwant, er ei fod yn newynog?
31Pan ddelir ef, rhaid iddo dalu'n �l seithwaith, a rhoi'r cyfan sydd ganddo.
32Felly, y mae'r godinebwr yn un disynnwyr, ac yn ei ddifetha'i hun wrth wneud hynny;
33caiff niwed ac amarch, ac ni ddil�ir ei warth.
34Oherwydd y mae eiddigedd yn cynddeiriogi gu373?r priod, ac nid yw'n arbed pan ddaw cyfle i ddial;
35ni fyn dderbyn iawndal, ac nis bodlonir, er cymaint a roddi.