Diarhebion 7:1-27 BCN1988 - Bible AI

1Fy mab, cadw fy ngeiriau, a thrysora fy ngorchmynion.

2Cadw fy ngorchmynion, iti gael byw, a boed fy nghyfarwyddyd fel cannwyll dy lygad.

3Rhwym hwy am dy fysedd, ysgrifenna hwy ar lech dy galon.

4Dywed wrth ddoethineb, "Fy chwaer wyt ti", a chyfarch ddeall fel c�r,

5i'th gadw dy hun rhag y wraig ddieithr, a rhag yr estrones a'i geiriau gwenieithus.

6Yr oeddwn yn ffenestr fy nhu375?, yn edrych allan trwy'r dellt

7ac yn gwylio'r rhai ifainc gwirion; a gwelais yn eu plith un disynnwyr

8yn mynd heibio i gornel y stryd, ac yn troi i gyfeiriad ei thu375?

9yn y cyfnos, yn hwyr y dydd, pan oedd yn dechrau nosi a thywyllu.

10Daeth dynes i'w gyfarfod, wedi ei gwisgo fel putain, ac yn llawn ystryw �

11un benchwiban a gwamal, nad yw byth yn aros gartref,

12weithiau ar y stryd, weithiau yn y sgw�r, yn llercian ym mhob cornel �

13y mae'n cydio ynddo ac yn ei gusanu, ac yn ddigon wynebgaled i ddweud wrtho,

14Roedd yn rhaid imi offrymu heddoffrymau, ac rwyf newydd gyflawni f'addewid;

15am hynny y deuthum allan i'th gyfarfod ac i chwilio amdanat, a dyma fi wedi dy gael.

16Taenais ar fy ngwely gwrlid o frethyn lliwgar yr Aifft;

17ac rwyf wedi persawru fy ngwely � myrr, aloes a sinamon.

18Tyrd, gad inni ymgolli mewn cariad tan y bore, a chael mwynhad wrth garu.

19Oherwydd nid yw'r gu373?r gartref; fe aeth ar daith bell.

20Cymerodd god o arian gydag ef, ac ni fydd yn �l nes y bydd y lleuad yn llawn."

21Y mae'n ei ddenu �'i phersw�d, ac yn ei hudo �'i geiriau gwenieithus.

22Y mae yntau'n ei dilyn heb oedi, fel ych yn mynd i'r lladd-dy, fel carw yn neidio i'r rhwyd

23cyn i'r saeth ei drywanu i'r byw, fel aderyn yn hedeg yn syth i'r fagl heb wybod fod ei einioes mewn perygl.

24Yn awr, blant, gwrandewch arnaf, a rhowch sylw i'm geiriau.

25Paid � gadael i'th galon dy ddenu i'w ffyrdd, a phaid � chrwydro i'w llwybrau;

26oherwydd y mae wedi taro llawer yn gelain, a lladdwyd nifer mawr ganddi.

27Ffordd i Sheol yw ei thu375?, yn arwain i lawr i neuaddau marwolaeth.

le>