1Y mae doethineb wedi adeiladu ei thu375?, ac yn naddu ei saith golofn;
2y mae wedi paratoi ei chig a chymysgu ei gwin a hulio ei bwrdd.
3Anfonodd allan ei llancesau, ac ar uchelfannau'r ddinas y mae'n galw,
4Dewch yma, bob un sy'n wirion." Y mae'n dweud wrth y rhai disynnwyr,
5Dewch, bwytewch gyda mi, ac yfwch y gwin a gymysgais.
6Gadewch eich gwiriondeb, ichwi gael byw; rhodiwch yn ffordd deall."
7Dirmyg a gaiff yr un sy'n disgyblu gwatwarwr, a'i feio a gaiff yr un sy'n ceryddu'r drygionus.
8Paid � cheryddu gwatwarwr, rhag iddo dy gas�u; cerydda'r doeth, ac fe'th g�r di.
9Rho gyngor i'r doeth, ac fe �'n ddoethach; dysga'r cyfiawn, ac fe gynydda mewn dysg.
10Ofn yr ARGLWYDD yw dechrau doethineb, ac adnabod y Sanctaidd yw deall.
11Oherwydd trwof fi y cynydda dy ddyddiau, ac yr ychwanegir blynyddoedd at dy fywyd.
12Os wyt yn ddoeth, byddi ar dy elw; ond os wyt yn gwawdio, ti dy hun fydd yn dioddef.
13Y mae gwraig ff�l yn benchwiban, yn ddiddeall, heb wybod dim.
14Y mae'n eistedd wrth ddrws ei thu375?, ar fainc yn uchelfannau'r ddinas,
15yn galw ar y rhai sy'n mynd heibio ac yn dilyn eu gorchwylion eu hunain:
16Dewch yma, bob un sy'n wirion." Y mae'n dweud wrth y rhai disynnwyr,
17Y mae du373?r lladrad yn felys, a bara wedi ei ddwyn yn flasus."
18Ond ni wyddant hwy mai meirwon yw'r rhai sydd yno, ac mai yn nyfnder Sheol y mae ei gwahoddedigion.