Eseciel 12:1-28 BCN1988 - Bible AI

1Daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud,

2Fab dyn, yr wyt yn byw yng nghanol tylwyth gwrthryfelgar; y mae ganddynt lygaid i weld, ond ni welant, a chlustiau i glywed, ond ni chlywant, am eu bod yn dylwyth gwrthryfelgar.

3Felly, fab dyn, gwna'n barod dy baciau ar gyfer caethglud, ac ymfuda liw dydd yn eu gu373?ydd; a phan ymfudi o'th gartref yn eu gu373?ydd i le arall, efallai y deallant eu bod yn dylwyth gwrthryfelgar.

4Dos �'th baciau allan, fel paciau caethglud, liw dydd yn eu gu373?ydd, a dos dithau allan yn eu gu373?ydd gyda'r nos, yn union fel y rhai sy'n mynd i gaethglud.

5Yn eu gu373?ydd cloddia drwy'r mur, a dos allan drwyddo.

6Yn eu gu373?ydd cod dy baciau ar dy ysgwydd a mynd � hwy allan yn y gwyll; gorchuddia dy wyneb rhag iti weld y tir, oherwydd gosodais di'n arwydd i du375? Israel."

7Gwneuthum fel y gorchmynnwyd imi. Liw dydd euthum �'m paciau allan, fel paciau caethglud, a liw nos cloddiais trwy'r mur �'m dwylo, a mynd � hwy allan yn y gwyll a'u cario ar fy ysgwydd yn eu gu373?ydd.

8Daeth gair yr ARGLWYDD ataf yn y bore a dweud,

9Fab dyn, oni ofynnodd Israel, y tylwyth gwrthryfelgar, iti, 'Beth wyt ti'n ei wneud?'

10Dywed wrthynt, 'Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Y mae a wnelo'r baich hwn �'r tywysog yn Jerwsalem, ac y mae holl dylwyth Israel yn ei chanol.'

11Dywed, 'Yr wyf fi'n arwydd i chwi; fel y gwneuthum i, felly y gwneir iddynt hwy; �nt i gaethiwed i'r gaethglud.'

12Bydd y tywysog sydd yn eu plith yn codi ei baciau ar ei ysgwydd yn y gwyll ac yn mynd allan; cloddir trwy'r mur, iddo fynd allan trwyddo, a bydd yn gorchuddio'i wyneb rhag iddo weld y tir �'i lygaid.

13Taenaf fy rhwyd drosto, ac fe'i delir yn fy magl; af ag ef i Fabilon, gwlad y Caldeaid, ond ni fydd yn ei gweld, ac yno y bydd farw.

14A byddaf yn gwasgaru i'r pedwar gwynt yr holl rai sydd o'i amgylch, ei gynorthwywyr a'i luoedd, ac yn eu hymlid � chleddyf noeth.

15Byddant yn gwybod mai myfi yw'r ARGLWYDD pan fyddaf yn eu gwasgaru ymysg y cenhedloedd ac yn eu chwalu trwy'r gwledydd.

16Ond byddaf yn arbed ychydig ohonynt rhag y cleddyf, a rhag newyn a haint, er mwyn iddynt gydnabod eu ffieidd-dra ymysg y cenhedloedd lle'r �nt; a byddant yn gwybod mai myfi yw'r ARGLWYDD."

17Daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud,

18Fab dyn, bwyta dy fwyd gan grynu, ac yfed dy ddiod mewn dychryn a phryder.

19Yna dywed wrth bobl y wlad, 'Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW am y rhai sy'n byw yn Jerwsalem ac yng ngwlad Israel: Byddant yn bwyta'u bwyd mewn pryder ac yn yfed eu diod mewn anobaith, oherwydd fe ddinoethir eu gwlad o bopeth sydd ynddi o achos trais yr holl rai sy'n byw ynddi.

20Difethir y dinasoedd sydd wedi eu cyfanheddu, a bydd y wlad yn anrhaith. Yna byddwch yn gwybod mai myfi yw'r ARGLWYDD.'"

21Daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud,

22Fab dyn, beth yw'r ddihareb hon sydd gennych am wlad Israel, 'Y mae'r dyddiau'n mynd heibio, a phob gweledigaeth yn pallu'?

23Am hynny, dywed wrthynt, 'Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Rhoddaf ddiwedd ar y ddihareb hon, ac ni ddefnyddiant hi mwyach yn Israel.' Dywed wrthynt, 'Y mae'r dyddiau'n agos�u pan gyflawnir pob gweledigaeth.'

24Oherwydd ni fydd eto weledigaeth dwyllodrus na dewiniaeth wenieithus ymysg tylwyth Israel.

25Ond byddaf fi, yr ARGLWYDD, yn llefaru yr hyn a ddymunaf, ac fe'i cyflawnir heb ragor o oedi. Yn eich dyddiau chwi, dylwyth gwrthryfelgar, byddaf yn cyflawni'r hyn a lefaraf," medd yr Arglwydd DDUW.

26Daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud,

27Fab dyn, y mae tylwyth Israel yn dweud, 'Ar gyfer y dyfodol pell y mae'r weledigaeth a gafodd, ac am amseroedd i ddod y mae'n proffwydo.'

28Felly dywed wrthynt, 'Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Nid oedir fy ngeiriau rhagor; cyflawnir yr hyn a lefaraf,' medd yr Arglwydd DDUW."

>