Eseciel 15:1-8 BCN1988 - Bible AI

1Daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud,

2Fab dyn, sut y mae pren y winwydden yn well na phob coeden, ac na phob cangen ar goed y goedwig?

3A gymerir pren ohoni i wneud rhywbeth defnyddiol? A wneir ohoni hoelen bren i grogi rhywbeth arni?

4Os rhoddir hi'n gynnud i d�n, bydd y t�n yn difa'r ddau ben, a'r canol yn golosgi; ac i beth y mae'n dda wedyn?

5Os na ellid gwneud dim defnyddiol ohoni pan oedd yn gyfan, pa faint llai y gwneir dim defnyddiol ohoni wedi i'r t�n ei difa ac iddi olosgi?

6Felly, fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Fel y rhoddais bren y winwydden o blith coed y goedwig yn gynnud i'r t�n, felly y gwnaf i drigolion Jerwsalem.

7Byddaf yn gosod fy wyneb yn eu herbyn; er iddynt ddod allan o'r t�n, eto bydd y t�n yn eu difa. A phan osodaf fy wyneb yn eu herbyn, byddwch yn gwybod mai myfi yw'r ARGLWYDD.

8Gwnaf y wlad yn ddiffeithwch, am iddynt fod yn anffyddlon, medd yr Arglwydd DDUW."