Eseciel 18:1-32 BCN1988 - Bible AI

1Daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud,

2Beth a olygwch wrth ddefnyddio'r ddihareb hon am wlad Israel: 'Y rhieni fu'n bwyta grawnwin surion, ond ar ddannedd y plant y mae dincod'?

3Cyn wired �'m bod yn fyw," medd yr Arglwydd DDUW, "ni ddefnyddiwch eto'r ddihareb hon yn Israel.

4I mi y perthyn pob enaid byw, y rhiant a'r plentyn fel ei gilydd; a'r sawl sy'n pechu fydd farw.

5Bwriwch fod dyn cyfiawn sy'n gwneud barn a chyfiawnder.

6Nid yw'n bwyta yn uchelfeydd y mynyddoedd, nac yn edrych ar eilunod tu375? Israel; nid yw'n halogi gwraig ei gymydog, nac yn mynd at wraig yn ystod ei misglwyf.

7Nid yw'n gorthrymu neb, ond y mae'n dychwelyd gwystl y dyledwr, ac nid yw'n lladrata; y mae'n rhoi bwyd i'r newynog a dillad am y noeth.

8Nid yw'n rhoi ei arian ar log nac yn derbyn elw; y mae'n atal ei law rhag drygioni, ac yn gwneud barn gywir rhwng dynion a'i gilydd.

9Y mae'n dilyn fy neddfau ac yn cadw'n gywir fy marnau; y mae'n ddyn cyfiawn, a bydd yn sicr o fyw," medd yr Arglwydd DDUW.

10Bwriwch fod ganddo fab sy'n treisio ac yn tywallt gwaed, ac yn gwneud un o'r pethau hyn,

11er na wnaeth ei dad yr un ohonynt. Y mae'n bwyta yn uchelfeydd y mynyddoedd, ac yn halogi gwraig ei gymydog;

12y mae'n gorthrymu'r tlawd a'r anghenus ac yn lladrata; nid yw'n dychwelyd gwystl y dyledwr; y mae'n edrych ar eilunod ac yn gwneud ffieidd-dra;

13y mae'n rhoi ei arian ar log ac yn derbyn elw. A fydd ef fyw? Na fydd! Am iddo wneud yr holl bethau ffiaidd hyn fe fydd yn sicr o farw, a bydd ei waed arno ef ei hun.

14Bwriwch fod gan hwnnw fab sy'n gweld yr holl ddrygioni a wnaeth ei dad; ac wedi iddo weld, nid yw'n ymddwyn felly.

15Nid yw'n bwyta yn uchelfeydd y mynyddoedd, nac yn edrych ar eilunod tu375? Israel, nac yn halogi gwraig ei gymydog.

16Nid yw'n gorthrymu neb, nac yn gofyn gwystl gan ddyledwr, nac yn lladrata; y mae'n rhoi bwyd i'r newynog a dillad am y noeth.

17Y mae'n atal ei law rhag drygioni, ac nid yw'n cymryd llog nac elw; y mae'n cadw fy marnau ac yn dilyn fy neddfau. Ni fydd ef farw am drosedd ei dad, ond bydd yn sicr o fyw.

18Bydd ei dad farw o achos ei droseddau ei hun, am iddo elwa trwy drais, lladrata oddi ar berthynas, a gwneud yr hyn nad oedd yn iawn ymysg ei bobl.

19Eto fe ofynnwch, 'Pam nad yw'r mab yn euog am drosedd y tad?' Am i'r mab wneud barn a chyfiawnder, a chadw fy holl ddeddfau ac ufuddhau iddynt, bydd yn sicr o fyw.

20Y sawl sy'n pechu a fydd farw. Ni fydd y mab yn euog am drosedd y tad, na'r tad am drosedd y mab; fe dderbyn y cyfiawn yn �l ei gyfiawnder, a'r drygionus yn �l ei ddrygioni.

21Os bydd y drygionus yn troi oddi wrth yr holl ddrygioni a wnaeth, yn cadw fy holl ddeddfau, ac yn gwneud barn a chyfiawnder, bydd yn sicr o fyw; ni fydd farw.

22Ni chofir yn ei erbyn yr un o'i droseddau, ond oherwydd y cyfiawnder a wnaeth bydd fyw.

23A wyf yn ymhyfrydu ym marw'r drygionus?" medd yr Arglwydd DDUW. "Onid gwell gennyf iddo droi o'i ffyrdd a byw?

24Ond os bydd dyn cyfiawn yn troi o'i gyfiawnder, ac yn gwneud drygioni a'r holl bethau ffiaidd y mae'r dyn drygionus yn eu gwneud, a fydd ef fyw? Ni chofir yr un o'r pethau cyfiawn a wnaeth, ond am iddo fod yn anffyddlon a chyflawni pechodau, bydd farw.

25Eto fe ddywedwch, 'Nid yw ffordd yr Arglwydd yn gyfiawn.' Clywch hyn, du375? Israel: A yw fy ffordd i yn anghyfiawn? Onid eich ffyrdd chwi sy'n anghyfiawn?

26Os bydd dyn cyfiawn yn troi o'i gyfiawnder ac yn gwneud drygioni, bydd farw o'i achos; am y drygioni a wnaeth bydd farw.

27Ond os bydd dyn drwg yn troi o'r drygioni a wnaeth ac yn gwneud barn a chyfiawnder, bydd yn arbed ei fywyd.

28Am iddo weld, a throi oddi wrth yr holl droseddau y bu'n eu gwneud, bydd yn sicr o fyw; ni fydd farw.

29Ac eto fe ddywed tu375? Israel, 'Nid yw ffordd yr Arglwydd yn gyfiawn.' A yw fy ffyrdd i yn anghywir, du375? Israel? Onid eich ffyrdd chwi sy'n anghywir?

30Felly, du375? Israel, fe'ch barnaf bob un am ei ffordd ei hun," medd yr Arglwydd DDUW. "Edifarhewch, a throwch oddi wrth eich holl wrthryfel, fel na fydd drygioni yn dramgwydd i chwi.

31Bwriwch ymaith yr holl droseddau a wnaethoch, a mynnwch galon newydd ac ysbryd newydd; pam y byddwch farw, du375? Israel?

32Nid wyf yn ymhyfrydu ym marwolaeth neb," medd yr Arglwydd DDUW; "edifarhewch a byddwch fyw."

>