Eseciel 19:1-14 BCN1988 - Bible AI

1Gwna alarnad am dywysogion Israel,

2a dywed: 'Y fath lewes oedd dy fam ymhlith y llewod! Gorweddodd ymysg y llewod ifainc a magu ei chenawon.

3Meithrinodd un o'i chenawon, a thyfodd yn llew ifanc; dysgodd larpio ysglyfaeth a bwyta pobl.

4Clywodd y cenhedloedd amdano, ac fe'i daliwyd yn eu pwll; aethant ag ef � bachau i wlad yr Aifft.

5Pan welodd hi ei siomi a dinistrio ei gobaith, cymerodd un arall o'i chenawon a gwneud llew ifanc ohono.

6Yr oedd yn prowla ymhlith y llewod, a thyfodd yn llew ifanc; dysgodd larpio ysglyfaeth a bwyta pobl.

7Tynnodd i lawr eu ceyrydd, a dinistrio eu dinasoedd; daeth ofn ar y wlad a phopeth ynddi oherwydd su373?n ei ruo.

8Yna daeth y cenhedloedd yn ei erbyn o'r taleithiau o amgylch; taenasant eu rhwyd drosto, ac fe'i daliwyd yn eu pwll.

9Tynasant ef i gawell � bachau, a mynd ag ef at frenin Babilon; rhoddwyd ef mewn carchar, fel na chlywyd ei su373?n mwyach ar fynyddoedd Israel.

10'Yr oedd dy fam fel gwinwydden mewn gwinllan, wedi ei phlannu yn ymyl dyfroedd; yr oedd yn ffrwythlon a brigog am fod digon o ddu373?r.

11Yr oedd ei changhennau yn gryfion, yn addas i deyrnwialen llywodraethwyr. Tyfodd yn uchel iawn, uwchlaw'r prysgwydd; yr oedd yn amlwg oherwydd ei huchder a nifer ei changau.

12Ond fe'i diwreiddiwyd mewn dicter, fe'i bwriwyd hi i'r llawr; deifiodd gwynt y dwyrain hi, dinoethwyd hi o'i ffrwythau; gwywodd ei changau cryfion, ac yswyd hwy gan d�n.

13Yn awr, y mae wedi ei thrawsblannu mewn diffeithwch, mewn tir cras a sychedig.

14Lledodd t�n o un o'i changhennau ac ysu ei blagur; ni adawyd arni yr un gangen gref, yn addas i deyrnwialen llywodraethwr.' Galarnad yw hon, ac y mae i'w defnyddio'n alarnad."

>