Eseciel 21:1-32 BCN1988 - Bible AI

1Daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud,

2Fab dyn, tro dy wyneb tua Jerwsalem, a llefara yn erbyn ei chysegr a phroffwyda yn erbyn tir Israel.

3Dywed wrth dir Israel, 'Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: Yr wyf fi yn dy erbyn; tynnaf fy nghleddyf o'i wain a thorri ymaith ohonot y cyfiawn a'r drygionus.

4Oherwydd fy mod am dorri ymaith ohonot y cyfiawn a'r drygionus y tynnir fy nghleddyf o'i wain yn erbyn pawb o'r de i'r gogledd.

5Yna bydd pob un yn gwybod fy mod i, yr ARGLWYDD, wedi tynnu fy nghleddyf o'i wain; ni fydd yn dychwelyd yno byth eto.'

6Ac yn awr, fab dyn, griddfan; griddfan yn chwerw o'u blaenau � chalon ddrylliedig.

7A phan ofynnant iti pam dy fod yn griddfan, fe ddywedi, 'Oherwydd y newyddion; pan ddaw, bydd pob calon yn toddi, pob llaw yn llipa, pob ysbryd yn pallu a phob glin yn ddu373?r. Fe ddigwydd, ac y mae ar ddyfod, medd yr Arglwydd DDUW.'"

8Daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud,

9Fab dyn, proffwyda a dweud, 'Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: Cleddyf! Cleddyf wedi ei hogi, a hefyd wedi ei loywi �

10wedi ei hogi er mwyn lladd, a'i loywi i fflachio fel mellten! O fy mab, fe chwifir gwialen i ddilorni pob eilun pren!

11Rhoddwyd y cleddyf i'w loywi, yn barod i law ymaflyd ynddo; y mae'r cleddyf wedi ei hogi a'i loywi, yn barod i'w roi yn llaw y lladdwr.'

12Gwaedda ac uda, fab dyn, oherwydd y mae yn erbyn fy mhobl, yn erbyn holl dywysogion Israel � fe'u bwrir hwythau i'r cleddyf gyda'm pobl; felly trawa dy glun.

13Oherwydd bydd profi. Pam yr ydych yn dilorni'r wialen? Ni lwydda, medd yr Arglwydd DDUW.

14Ac yn awr, fab dyn, proffwyda, a thrawa dy ddwylo yn erbyn ei gilydd; chwifier y cleddyf ddwywaith a thair � cleddyf i ladd ydyw, cleddyf i wneud lladdfa fawr, ac y mae'n chwyrl�o o'u hamgylch.

15Er mwyn i'w calon doddi, ac i lawer ohonynt syrthio, yr wyf wedi gosod cleddyf dinistr wrth eu holl byrth. Och! Fe'i gwnaed i ddisgleirio fel mellten, ac fe'i tynnir i ladd.

16Tro'n finiog i'r dde ac i'r chwith, i ble bynnag y pwyntia dy flaen.

17Byddaf finnau hefyd yn taro fy nwylo, ac yna'n tawelu fy llid. Myfi yr ARGLWYDD a lefarodd."

18Daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud,

19Yn awr, fab dyn, noda ddwy ffordd i gleddyf brenin Babilon ddod, a'r ddwy yn arwain o'r un wlad, a gosod fynegbost ar ben y ffordd sy'n dod i'r ddinas.

20Noda un ffordd i'r cleddyf ddod yn erbyn Rabba'r Ammoniaid, a'r llall yn erbyn Jwda a Jerwsalem gaerog.

21Oherwydd fe oeda brenin Babilon ar y groesffordd lle mae'r ddwy ffordd yn fforchi, i geisio argoel; bydd yn bwrw coelbren � saethau, yn ymofyn �'i eilunod ac yn edrych ar yr afu.

22Yn ei law dde bydd coelbren Jerwsalem, iddo roi gorchymyn i ladd, codi bonllef rhyfel, gosod peiriannau hyrddio yn erbyn y pyrth, codi esgynfa ac adeiladu gwarchglawdd.

23Bydd yn ymddangos yn argoel twyllodrus i'r rhai sy'n deyrngar iddo, ond bydd ef yn dwyn eu trosedd i gof ac yn eu caethiwo.

24Felly, fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Oherwydd ichwi ddwyn eich trosedd i gof trwy eich gwrthryfel agored, ac amlygu eich pechodau yn y cyfan a wnewch, oherwydd i chwi wneud hyn, fe'ch caethiwir.

25A thithau, dywysog annuwiol a drygionus Israel, yr un y daeth ei ddydd yn amser y gosb derfynol,

26fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Diosg y benwisg a thyn y goron; nid fel y bu y bydd; dyrchefir yr isel a darostyngir yr uchel.

27Adfail! Adfail! Yn adfail na fu ei bath y gwnaf hi, nes i'r hwn a'i piau trwy deg ddod, ac imi ei rhoi iddo ef.

28Yn awr, fab dyn, proffwyda a dywed, 'Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW wrth yr Ammoniaid a'u heilun: Cleddyf! Cleddyf wedi ei dynnu i ladd, wedi ei loywi i ddifa ac i ddisgleirio fel mellten!

29Er bod gweledigaethau gau amdanat ac argoelion twyllodrus ynglu375?n � thi, fe'th osodir ar yddfau'r drygionus sydd i'w lladd, sef y rhai y daeth eu dydd yn amser y gosb derfynol.

30Yna, dychweler ef i'w wain. Yn y lle y cr�wyd di, yng ngwlad dy gynefin, y barnaf di.

31Tywalltaf fy llid arnat a chwythu fy nig tanllyd drosot; rhoddaf di yn nwylo dynion creulon, dynion medrus i ddinistrio.

32Byddi'n gynnud i d�n, bydd dy waed trwy'r tir, ac ni chofir amdanat. Myfi yr ARGLWYDD a lefarodd.'"

>