1Daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud,
2Fab dyn, yr oedd unwaith ddwy wraig, merched yr un fam.
3Aethant yn buteiniaid yn yr Aifft, gan ddechrau'n ifanc; yno y chwaraewyd �'u bronnau a gwasgu eu tethau morwynol.
4Ohola oedd enw'r hynaf, ac Oholiba oedd ei chwaer; daethant yn eiddof fi, a ganwyd iddynt feibion a merched. Samaria yw Ohola a Jerwsalem yw Oholiba.
5Puteiniodd Ohola pan oedd yn eiddo i mi, a chwantu ei chariadon, yr Asyriaid, yn swyddogion
6mewn lifrai glas, yn llywodraethwyr a chadfridogion � gwu375?r ifainc dymunol, pob un ohonynt, ac yn marchogaeth ar geffylau.
7Puteiniodd gyda'i dewis o holl wu375?r yr Asyriaid, a'i halogi ei hun gydag eilunod y rhai a chwantai.
8Ni throes oddi wrth y puteindra a gychwynnodd yn yr Aifft, pan oedd hi'n ifanc a rhai'n gorwedd gyda hi ac yn gwasgu ei thethau morwynol ac yn tywallt eu chwant arni.
9Am hynny, rhoddais hi yn nwylo ei chariadon, yn nwylo'r Asyriaid yr oedd yn eu chwantu.
10Bu iddynt hwythau ei dinoethi, cymryd ei meibion a'i merched, a'i lladd hithau �'r cleddyf. Daeth yn enwog ymysg gwragedd, a rhoddwyd barn arni.
11Er i'w chwaer Oholiba weld hyn, eto aeth yn fwy llwgr na'i chwaer yn ei chwant a'i phuteindra.
12Chwantodd hithau'r Asyriaid, yn llywodraethwyr a chadfridogion, yn swyddogion mewn lifrai glas a marchogion ar geffylau � gwu375?r ifainc dymunol, pob un ohonynt.
13Gwelais hithau hefyd yn ei halogi ei hun; yr un ffordd yr �i'r ddwy.
14Ond fe wnaeth hi fwy o buteindra. Gwelodd ddynion wedi eu darlunio ar bared � lluniau o'r Caldeaid, wedi eu lliwio mewn coch,
15yn gwisgo gwregys am eu canol a thwrbanau llaes am eu pennau, a phob un ohonynt yn ymddangos fel swyddog ac yn edrych yn debyg i'r Babiloniaid, brodorion gwlad Caldea.
16Pan welodd hwy, fe'u chwantodd ac anfon negeswyr amdanynt i Caldea.
17Daeth y Babiloniaid ati i wely cariad a'i halogi �'u puteindra; wedi iddi gael ei halogi ganddynt, fe droes ymaith mewn atgasedd oddi wrthynt.
18Pan wnaeth ei phuteindra'n amlwg a datguddio'i noethni, fe drois innau oddi wrthi, fel yr oeddwn wedi troi mewn atgasedd oddi wrth ei chwaer.
19Ond fe wnaeth ragor o buteindra wrth iddi gofio am ddyddiau ei hieuenctid, pan oedd yn butain yng ngwlad yr Aifft.
20Yno yr oedd yn chwantu ei chariadon, a oedd �'u haelodau fel rhai asynnod ac yn bwrw eu had fel stalwyni.
21Felly yr oeddit yn ail-fyw anlladrwydd dy ieuenctid, pan wasgwyd dy dethau a chwarae �'th fronnau ifainc yn yr Aifft.
22Felly, Oholiba, fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: 'Yr wyf am gyffroi yn dy erbyn dy gariadon, y troist mewn atgasedd oddi wrthynt; dof � hwy yn dy erbyn o bob tu �
23y Babiloniaid a'r holl Galdeaid, gwu375?r Pecod, Soa a Coa, a'r holl Asyriaid, gwu375?r ifainc dymunol pob un ohonynt, i gyd yn llywodraethwyr a chadfridogion, yn benaethiaid a swyddogion ac yn marchogaeth ar geffylau.
24D�nt yn dy erbyn o'r gogledd, � cherbydau, wageni a mintai o bobl, ac fe safant yn dy erbyn o bob tu gyda bwcled a tharian a chyda helmedau; rhof iddynt hawl i gosbi, ac fe'th gosbant yn �l eu dedfryd eu hunain.
25Trof f'eiddigedd yn dy erbyn, ac fe weithredant fy llid arnat; torrant ymaith dy drwyn a'th glustiau, a bydd y rhai a adewir ohonot yn syrthio trwy'r cleddyf; cymerant dy feibion a'th ferched, ac fe losgir y rhai a adewir � th�n.
26Tynnant dy ddillad oddi amdanat, a chymerant hefyd dy dlysau prydferth.
27Rhof derfyn ar dy anlladrwydd ac ar y puteindra a gychwynnodd yng ngwlad yr Aifft; ni fyddi'n edrych arnynt eto � blys, nac yn cofio'r Aifft mwyach.'
28Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: 'Yr wyf am dy roi yn nwylo'r rhai a gasei, y rhai y troist mewn atgasedd oddi wrthynt.
29Fe weithredant yn atgas tuag atat, a chymryd popeth y gweithiaist amdano; fe'th adawant yn llwm a noeth, a datguddir noethni dy buteindra. Dy anlladrwydd a'th buteindra
30a ddaeth � hyn arnat, oherwydd iti yn dy buteindra fynd ar �l y cenhedloedd a'th halogi dy hun gyda'u heilunod.
31Aethost yr un ffordd �'th chwaer, a rhof ei chwpan hi yn dy law.'
32Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: 'Fe yfi o gwpan dy chwaer, cwpan dwfn a llydan; fe fyddi'n wawd ac yn watwar, oherwydd fe ddeil lawer.
33Fe'th lenwir � meddwdod a gofid; cwpan dinistr ac anobaith yw cwpan dy chwaer Samaria.
34Fe'i hyfi i'r gwaelod; yna fe'i maluri'n ddarnau a rhwygo dy fronnau.' Myfi a lefarodd," medd yr Arglwydd DDUW.
35Felly, fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: 'Oherwydd iti fy anghofio a'm bwrw y tu �l i'th gefn, bydd yn rhaid iti ddwyn cosb dy anlladrwydd a'th buteindra.'"
36Dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, "Fab dyn, a ferni di Ohola ac Oholiba, a gosod eu ffieidd-dra o'u blaenau?
37Oherwydd bu iddynt odinebu, ac y mae gwaed ar eu dwylo; buont yn godinebu gyda'u heilunod, ac yn aberthu'n fwyd iddynt hyd yn oed y plant a anwyd i mi ohonynt.
38Gwnaethant hyn hefyd i mi: yr un pryd fe lygrasant fy nghysegr a halogi fy Sabothau.
39Ar y dydd pan oeddent yn aberthu eu plant i'w heilunod, aethant i mewn i'm cysegr i'w halogi. Dyna a wnaethant yn fy nhu375?.
40Anfonasant hefyd negeswyr i gyrchu dynion o bell; a phan ddaethant, yr oeddit yn ymolchi, yn lliwio dy lygaid ac yn gwisgo dy dlysau.
41Yr oeddit yn eistedd ar wely drudfawr, wedi gosod bwrdd o'i flaen a rhoi arno fy arogldarth a'm holew i.
42Yr oedd su373?n tyrfa ddiofal o'i amgylch, ac fe ddygwyd y Sabeaid o'r anialwch yn ogystal � mintai o ddynion cyffredin; rhoesant freichledau ar freichiau'r merched a thorchau prydferth ar eu pennau.
43Yna fe ddywedais am yr un oedd wedi diffygio gan buteindra, 'Yn awr, bydded iddynt buteinio gyda hi, oherwydd putain ydyw.'
44Aethant ati fel yr � dyn at butain; felly yr aethant at Ohola ac Oholiba, y merched anllad.
45Ond bydd dynion cyfiawn yn eu cosbi � dedfryd puteiniaid ac � dedfryd rhai'n tywallt gwaed, oherwydd puteiniaid ydynt ac y mae gwaed ar eu dwylo."
46Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: "Dewch � mintai yn eu herbyn i'w dychryn a'u hysbeilio.
47Bydd y fintai yn eu llabyddio � cherrig, yn eu darnio � chleddyfau, yn lladd eu meibion a'u merched, ac yn llosgi eu tai � th�n.
48Rhof derfyn ar anlladrwydd yn y wlad, ac fe rybuddir pob gwraig rhag bod mor anllad � chwi.
49Byddwch yn derbyn cosb am eich anlladrwydd a th�l am ddrygioni eich eilunaddoliad. Yna byddwch yn gwybod mai myfi yw'r Arglwydd DDUW."