Eseciel 25:1-17 BCN1988 - Bible AI

1Daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud,

2Fab dyn, tro dy wyneb at yr Ammoniaid a phroffwyda yn eu herbyn.

3Dywed wrthynt, 'Gwrandewch air yr Arglwydd DDUW. Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Oherwydd iti ddweud, "Aha!" pan halogwyd fy nghysegr a phan anrheithiwyd tir Israel a phan ddygwyd tu375? Jwda i gaethglud,

4am hynny fe'th rof yn eiddo i bobl y dwyrain. Gosodant hwy eu gwersylloedd, a chodi eu pebyll yn dy ganol; byddant yn bwyta dy gnydau ac yn yfed dy laeth.

5Fe wnaf Rabba yn borfa i gamelod ac Ammon yn gynefin defaid, a byddwch yn gwybod mai myfi yw'r ARGLWYDD.

6Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Oherwydd iti guro dwylo a tharo traed a llawenhau � holl falais dy galon yn erbyn Israel,

7am hynny yr wyf am estyn fy llaw yn dy erbyn a'th roi yn anrhaith i'r cenhedloedd; torraf di ymaith o blith y bobloedd a'th ddifetha o fysg y gwledydd. Fe'th ddinistriaf, a byddi'n gwybod mai myfi yw'r ARGLWYDD.

8'Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Oherwydd i Moab a Seir ddweud, "Edrych, aeth tu375? Jwda fel yr holl genhedloedd",

9am hynny fe ddifethaf derfynau Moab, sef dinasoedd y gororau, Beth-jesimoth, Baal-meon a Ciriathaim, rhai gorau'r wlad.

10Rhof Moab gyda'r Ammoniaid yn eiddo i bobl y dwyrain, fel na bydd i'r Ammoniaid gael eu cofio ymhlith y cenhedloedd,

11a gweithredaf farn ar Moab. Yna byddant yn gwybod mai myfi yw'r ARGLWYDD.

12'Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Oherwydd i Edom ddial ar du375? Jwda, a bod yn euog iawn trwy wneud hynny,

13am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Fe estynnaf fy llaw yn erbyn Edom, a thorri ymaith ohoni ddyn ac anifail, a'i gwneud yn anrhaith; o Teman hyd Dedan byddant yn syrthio trwy'r cleddyf.

14Byddaf yn dial ar Edom trwy fy mhobl Israel, ac fe wn�nt ag Edom yn �l fy nicter a'm llid. Yna byddant yn gwybod mai dyma fy nialedd, medd yr Arglwydd DDUW.

15'Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Oherwydd i'r Philistiaid weithredu'n ddialgar, a dial � malais yn eu calonnau, a dinistrio o achos hen gasineb,

16am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Fe estynnaf fy llaw yn erbyn y Philistiaid, ac fe dorraf ymaith y Cerethiaid, a dinistrio'r rhai sy'n weddill ar hyd yr arfordir.

17Dygaf ddialedd mawr arnynt a'u cosbi yn fy nicter. Yna byddant yn gwybod mai myfi yw'r ARGLWYDD, pan fyddaf yn dial arnynt.'"

>