Eseciel 32:1-32 BCN1988 - Bible AI

1Ar y dydd cyntaf o'r deuddegfed mis yn y ddeuddegfed flwyddyn, daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud;

2Fab dyn, cod alarnad am Pharo brenin yr Aifft, a dywed wrtho, 'Yr wyt fel llew ymysg y cenhedloedd. Yr wyt fel draig yn y moroedd, yn ymdroelli yn d'afonydd, yn corddi du373?r �'th draed, ac yn maeddu ei ffrydiau.

3'Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: � thyrfa fawr o bobl fe daflaf fy rhwyd drosot, ac fe'th godant i fyny ynddi.

4Fe'th luchiaf ar y ddaear, a'th daflu ar y maes agored, a gwneud i holl adar y nefoedd ddisgyn arnat, a diwallu'r holl anifeiliaid gwylltion ohonot.

5Gwasgaraf dy gnawd ar y mynyddoedd, a llenwi'r dyffrynnoedd �'th weddillion.

6Mwydaf y ddaear hyd at y mynyddoedd �'r gwaed fydd yn llifo ohonot, a bydd y cilfachau yn llawn ohono.

7Pan ddiffoddaf di, gorchuddiaf y nefoedd a thywyllu ei s�r; cuddiaf yr haul � chwmwl, ac ni rydd y lloer ei goleuni.

8Tywyllaf holl oleuadau disglair y nefoedd uwch dy ben, ac fe'i gwnaf yn dywyll dros dy dir,' medd yr Arglwydd DDUW.

9'Gofidiaf galon llawer o bobl pan af � thi i gaethglud ymysg y cenhedloedd, i wledydd nad wyt yn eu hadnabod.

10Gwnaf i lawer o bobl frawychu o'th achos, a bydd eu brenhinoedd yn crynu mewn braw o'th blegid pan ysgydwaf fy nghleddyf o'u blaenau; byddant yn ofni am eu heinioes bob munud ar ddydd dy gwymp.

11Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Daw cleddyf brenin Babilon yn dy erbyn.

12Gwnaf i'th finteioedd syrthio trwy gleddyfau'r rhai cryfion, y greulonaf o'r holl genhedloedd. Dymchwelant falchder yr Aifft, ac fe ddifethir ei holl finteioedd.

13Dinistriaf ei holl wartheg o ymyl y dyfroedd; ni fydd traed dynol yn eu corddi mwyach, na charnau anifeiliaid yn eu maeddu.

14Yna gwnaf eu dyfroedd yn groyw, a bydd eu hafonydd yn llifo fel olew,' medd yr Arglwydd DDUW.

15'Pan wnaf wlad yr Aifft yn anrhaith, a dinoethi'r wlad o'r hyn sydd ynddi; pan drawaf i lawr bawb sy'n byw ynddi, yna byddant yn gwybod mai myfi yw'r ARGLWYDD.

16Dyma'r alarnad a lafargenir amdani; merched y cenhedloedd fydd yn ei chanu, ac am yr Aifft a'i holl finteioedd y canant hi,' medd yr Arglwydd DDUW."

17Ar y pymthegfed dydd o'r mis cyntaf yn y ddeuddegfed flwyddyn, daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud,

18Fab dyn, galara am finteioedd yr Aifft, a bwrw hi i lawr, hi a merched y cenhedloedd cryfion, i'r tir isod gyda'r rhai sy'n disgyn i'r pwll.

19'A gei di ffafr rhagor nag eraill? Dos i lawr, a gorwedd gyda'r dienwaededig.

20Syrthiant gyda'r rhai a leddir �'r cleddyf; tynnwyd y cleddyf, llusgir hi a'i minteioedd ymaith.

21O ganol Sheol fe ddywed y cryfion amdani hi a'i chynorthwywyr, "Daethant i lawr a gorwedd gyda'r dienwaededig a laddwyd �'r cleddyf."

22Y mae Asyria a'i holl luoedd yno, ac o'i hamgylch feddau'r lladdedigion, yr holl rai a laddwyd �'r cleddyf.

23Y mae eu beddau yn nyfnder y pwll, ac y mae ei holl lu o amgylch ei bedd; y mae'r holl rai a fu'n achosi braw yn nhir y byw wedi syrthio trwy'r cleddyf.

24Y mae Elam a'i holl luoedd o amgylch ei bedd, i gyd wedi eu lladd a syrthio trwy'r cleddyf; y mae'r holl rai a fu'n achosi braw yn nhir y byw i lawr yn y tir isod gyda'r dienwaededig, ac yn dwyn eu gwarth gyda'r rhai sy'n disgyn i'r pwll.

25Gwnaed gwely iddi ymysg y lladdedigion, gyda'i holl luoedd o amgylch ei bedd; y maent i gyd yn ddienwaededig, wedi eu lladd �'r cleddyf. Am iddynt achosi braw yn nhir y byw, y maent yn dwyn eu gwarth gyda'r rhai sy'n disgyn i'r pwll, ac yn gorwedd ymysg y lladdedigion.

26Y mae Mesach a Tubal yno, a'u holl luoedd o amgylch eu beddau, y maent i gyd yn ddienwaededig, wedi eu lladd �'r cleddyf, am iddynt achosi braw yn nhir y byw.

27Onid ydynt yn gorwedd gyda'r rhyfelwyr a syrthiodd yn ddienwaededig, a mynd i lawr i Sheol gyda'u harfau rhyfel, a rhoi eu harfau dan eu pennau? Daeth cosb eu troseddau ar eu hesgyrn, oherwydd bod braw ar y cryfion hyn trwy dir y byw.

28Byddi dithau hefyd ymysg y dienwaededig, wedi dy ddryllio ac yn gorwedd gyda'r rhai a laddwyd �'r cleddyf.

29Y mae Edom gyda'i brenhinoedd a'i holl dywysogion yno; er eu grym y maent gyda'r rhai a laddwyd �'r cleddyf, yn gorwedd gyda'r dienwaededig, gyda'r rhai sy'n disgyn i'r pwll.

30Y mae holl dywysogion y gogledd a'r holl Sidoniaid yno; aethant i lawr mewn gwarth gyda'r lladdedigion, er gwaetha'r braw a achosodd eu cryfder; y maent yn gorwedd yn ddienwaededig gyda'r rhai a laddwyd �'r cleddyf, ac yn dwyn eu gwarth gyda'r rhai sy'n disgyn i'r pwll.

31Pan fydd Pharo yn eu gweld bydd yn ymgysuro am ei holl finteioedd � Pharo a'i holl lu, a laddwyd �'r cleddyf,' medd yr Arglwydd DDUW.

32'Oherwydd achosodd fraw trwy holl dir y byw, ac fe'i rhoir i orwedd, ef a'i holl finteioedd, ymysg y dienwaededig a laddwyd �'r cleddyf,' medd yr Arglwydd DDUW."

>