1Daeth llaw yr ARGLWYDD arnaf, ac aeth � mi allan trwy ysbryd yr ARGLWYDD a'm gosod yng nghanol dyffryn a oedd yn llawn esgyrn.
2Aeth � mi'n �l a blaen o'u hamgylch, a gwelais lawer iawn o esgyrn ar lawr y dyffryn, ac yr oeddent yn sychion iawn.
3Gofynnodd imi, "Fab dyn, a all yr esgyrn hyn fyw?" Atebais innau, "O Arglwydd DDUW, ti sy'n gwybod."
4Dywedodd wrthyf, "Proffwyda wrth yr esgyrn hyn a dywed wrthynt, 'Esgyrn sychion, clywch air yr ARGLWYDD.
5Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW wrth yr esgyrn hyn: Wele, fe roddaf fi anadl ynoch, a byddwch fyw.
6Rhoddaf ewynnau arnoch, paraf i gnawd ddod arnoch a rhoddaf groen drosoch; rhoddaf anadl ynoch, a byddwch fyw. Yna byddwch yn gwybod mai myfi yw'r ARGLWYDD.'"
7Proffwydais fel y gorchmynnwyd imi. Ac fel yr oeddwn yn proffwydo daeth su373?n, a hefyd gynnwrf, a daeth yr esgyrn ynghyd, asgwrn at asgwrn.
8Edrychais, ac yr oedd gewynnau arnynt, a chnawd hefyd, ac yr oedd croen drostynt, ond nid oedd anadl ynddynt.
9Yna dywedodd wrthyf, "Proffwyda wrth yr anadl; proffwyda, fab dyn, a dywed wrth yr anadl, 'Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: O anadl, tyrd o'r pedwar gwynt, ac anadla ar y lladdedigion hyn, iddynt fyw.'"
10Proffwydais fel y gorchmynnwyd imi, a daeth anadl iddynt ac aethant yn fyw, a chodi ar eu traed yn fyddin gref iawn.
11Yna dywedodd wrthyf, "Fab dyn, holl du375? Israel yw'r esgyrn hyn. Y maent yn dweud, 'Aeth ein hesgyrn yn sychion, darfu am ein gobaith, ac fe'n torrwyd ymaith.'
12Felly, proffwyda wrthynt a dywed, 'Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: O fy mhobl, yr wyf am agor eich beddau a'ch codi ohonynt, ac fe af � chwi'n �l i dir Israel.
13Yna, byddwch chwi fy mhobl yn gwybod mai myfi yw'r ARGLWYDD, pan agoraf eich beddau a'ch codi ohonynt.
14Rhoddaf fy ysbryd ynoch, a byddwch fyw, ac fe'ch gosodaf yn eich gwlad eich hunain. Yna byddwch yn gwybod mai myfi'r ARGLWYDD a lefarodd, ac mai myfi a'i gwnaeth, medd yr ARGLWYDD.'"
15Daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud,
16Fab dyn, cymer ffon ac ysgrifenna arni, 'I Jwda ac i'r Israeliaid sydd mewn cysylltiad ag ef'; yna cymer ffon arall ac ysgrifenna arni, 'Ffon Effraim: i Joseff a holl du375? Israel sydd mewn cysylltiad ag ef.'
17Una hwy �'i gilydd yn un ffon, fel y d�nt yn un yn dy law.
18Pan ddywed dy bobl, 'Oni ddywedi wrthym beth yw ystyr hyn?'
19ateb hwy, 'Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Byddaf yn cymryd ffon Joseff, sydd yn nwylo Effraim, a llwythau Israel mewn cysylltiad ag ef, ac yn uno � hi ffon Jwda, ac yn eu gwneud yn un ffon, fel y byddant yn un yn fy llaw.'
20Dal y ffyn yr ysgrifennaist arnynt yn dy law o'u blaenau,
21a dywed wrthynt, 'Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Wele fi'n cymryd yr Israeliaid o blith y cenhedloedd lle'r aethant; fe'u casglaf o bob man, a mynd � hwy i'w gwlad eu hunain.
22Gwnaf hwy'n un genedl yn y wlad, ar fynyddoedd Israel, a bydd un brenin drostynt i gyd; ni fyddant byth eto'n ddwy genedl, ac ni rennir hwy mwyach yn ddwy deyrnas.
23Ni fyddant yn eu halogi eu hunain eto �'u heilunod, eu pethau atgas a'u holl droseddau, oherwydd byddaf yn eu gwaredu o'u holl wrthgilio, a fu'n ddrygioni ynddynt, ac fe'u glanhaf; byddant hwy'n bobl i mi, a minnau'n Dduw iddynt hwy.
24'Fy ngwas Dafydd a fydd yn frenin arnynt, a bydd un bugail drostynt i gyd. Byddant yn dilyn fy nghyfreithiau ac yn gofalu cadw fy neddfau.
25Byddant yn byw yn y wlad a roddais i'm gwas Jacob, y wlad lle bu'ch hynafiaid yn byw; byddant hwy a'u plant a phlant eu plant yn byw yno am byth, a bydd fy ngwas Dafydd yn dywysog iddynt am byth.
26Gwnaf gyfamod heddwch � hwy, ac fe fydd yn gyfamod tragwyddol; sefydlaf hwy, a'u lluosogi, a gosodaf fy nghysegr yn eu mysg am byth.
27Bydd fy nhrigfan gyda hwy; a byddaf fi'n Dduw iddynt, a hwythau'n bobl i mi.
28Yna, pan fydd fy nghysegr yn eu mysg am byth, bydd y cenhedloedd yn gwybod mai myfi, yr ARGLWYDD, sy'n sancteiddio Israel.'"