1Fab dyn, proffwyda yn erbyn Gog a dywed, 'Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Wele fi yn dy erbyn di, Gog, prif dywysog Mesach a Tubal.
2Byddaf yn dy droi ac yn dy lusgo ymlaen; dof � thi o bellterau'r gogledd, a'th anfon yn erbyn mynyddoedd Israel.
3Yna trawaf dy fwa o'th law chwith a pheri i'th saethau ddisgyn o'th law dde.
4Ar fynyddoedd Israel y syrthi, ti a'th holl fyddin a'r bobloedd sydd gyda thi; fe'th rof yn fwyd i bob math o adar ysglyfaethus ac i'r anifeiliaid gwylltion.
5Byddi'n syrthio yn y maes, oherwydd myfi a lefarodd, medd yr Arglwydd DDUW.
6Byddaf yn anfon t�n ar Magog ac ar y rhai sy'n byw'n ddiogel ar yr arfordir; a byddant yn gwybod mai myfi yw'r ARGLWYDD.
7'Gwnaf fy enw sanctaidd yn wybyddus ymhlith fy mhobl Israel, ac ni adawaf i'm henw sanctaidd gael ei halogi mwyach; a bydd y cenhedloedd yn gwybod mai myfi, yr ARGLWYDD, yw Sanct Israel.
8Y mae'n dod! Bydd yn digwydd, medd yr Arglwydd DDUW. Dyma'r diwrnod y dywedais amdano!
9'Yna, bydd y rhai sy'n byw yn ninasoedd Israel yn mynd allan ac yn gwneud t�n o'r arfau ac yn eu llosgi � y tarianau bach a mawr, y bw�u a'r saethau, y pastynau a'r gwaywffyn; byddant yn gwneud t�n ohonynt am saith mlynedd.
10Ni fyddant yn casglu cynnud o'r meysydd nac yn torri coed yn y coedwigoedd, gan y byddant yn gwneud t�n o'r arfau. Byddant yn ysbeilio'u hysbeilwyr ac yn anrheithio'u hanrheithwyr, medd yr Arglwydd DDUW.
11'Y diwrnod hwnnw fe roddaf i Gog feddrod yn Israel, yn nyffryn y rhai sy'n croesi i'r dwyrain at y m�r; bydd yn rhwystr i'r rhai sy'n croesi drosodd, oherwydd bydd Gog a'i holl luoedd wedi eu claddu yno, ac fe'i gelwir yn Ddyffryn Hamon Gog.
12Bydd tu375? Israel yn eu claddu am saith mis, er mwyn glanhau'r wlad.
13Bydd holl bobl y wlad yn eu claddu, a bydd yn glod iddynt ar y diwrnod y gogoneddir fi, medd yr Arglwydd DDUW.
14Neilltuir dynion i fynd trwy'r wlad yn gyson i gladdu'r rhai a adawyd ar wyneb y ddaear, er mwyn ei glanhau; ar derfyn y saith mis byddant yn dechrau chwilio.
15Wrth iddynt fynd trwy'r wlad, ac i un ohonynt weld asgwrn dynol, bydd hwnnw'n codi arwydd yn ei ymyl nes i'r claddwyr ei gladdu yn Nyffryn Hamon Gog.
16Bydd yno hefyd dref o'r enw Hamona. Felly y glanheir y wlad.'
17Fab dyn, fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Galw ar bob math o adar ac ar yr holl anifeiliaid gwylltion, 'Ymgasglwch a dewch at eich gilydd o bob tu i'r aberth yr wyf yn ei baratoi i chwi, sef yr aberth mawr ar fynyddoedd Israel; a byddwch yn bwyta cnawd ac yn yfed gwaed.
18Byddwch yn bwyta cnawd y cedyrn ac yn yfed gwaed tywysogion y ddaear, yn union fel pe byddent yn hyrddod ac u373?yn, yn fychod a bustych, pob un ohonynt wedi ei besgi yn Basan.
19Yn yr aberth yr wyf fi'n ei baratoi i chwi, byddwch yn bwyta braster nes eich digoni ac yn yfed gwaed nes meddwi.
20Fe'ch digonir wrth fy mwrdd � meirch a marchogion, � chedyrn a phob math o filwyr,' medd yr Arglwydd DDUW.
21Byddaf yn gosod fy ngogoniant ymysg y cenhedloedd, a bydd yr holl genhedloedd yn gweld y farn a wneuthum a'r llaw a osodais arnynt.
22o'r dydd hwnnw ymlaen, bydd tu375? Israel yn gwybod mai myfi yw'r ARGLWYDD eu Duw.
23Bydd y cenhedloedd yn gwybod mai am eu drygioni yr aeth tu375? Israel i gaethglud; am iddynt fod yn anffyddlon i mi y cuddiais fy wyneb oddi wrthynt a'u rhoi yn nwylo'u gelynion nes iddynt i gyd syrthio trwy'r cleddyf.
24Fe wneuthum � hwy yn �l eu haflendid a'u troseddau, a chuddiais fy wyneb oddi wrthynt.
25Felly, fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Yn awr, fe adferaf lwyddiant Jacob a thosturio wrth holl du375? Israel; a byddaf yn eiddigus o'm henw sanctaidd.
26Byddant yn anghofio'u gwarth, a'u holl anffyddlondeb tuag ataf fi pan oeddent yn byw'n ddiogel yn eu gwlad heb neb i'w dychryn.
27Pan ddychwelaf hwy o blith y bobloedd a'u casglu o wledydd eu gelynion, amlygaf fy sancteiddrwydd trwyddynt hwy yng ngu373?ydd llawer o genhedloedd.
28Yna byddant yn gwybod mai myfi yw'r ARGLWYDD eu Duw, oherwydd, er imi eu hanfon i gaethglud ymhlith y cen-hedloedd, fe'u casglaf ynghyd i'w gwlad heb adael yr un ohonynt ar �l.
29Ni chuddiaf fy wyneb oddi wrthynt mwyach, oherwydd byddaf yn tywallt fy ysbryd ar du375? Israel, medd yr Arglwydd DDUW."