Eseciel 42:1-20 BCN1988 - Bible AI

1Yna aeth y dyn � mi allan tua'r gogledd i'r cyntedd nesaf allan, ac arweiniodd fi i'r ystafelloedd oedd gyferbyn � chwrt y deml a'r adeilad tua'r gogledd.

2Hyd yr adeilad �'i ddrws tua'r gogledd oedd can cufydd, a'i led yn hanner can cufydd.

3Yn yr ugain cufydd oedd yn perthyn i'r cyntedd nesaf i mewn, a chyferbyn � phalmant y cyntedd nesaf allan, yr oedd orielau yn wynebu ei gilydd ar dri llawr.

4O flaen yr ystafelloedd yr oedd llwybr caeedig, deg cufydd o led a chan cufydd o hyd. Yr oedd eu drysau tua'r gogledd.

5Yr oedd yr ystafelloedd uchaf yn gulach, gan fod yr orielau yn tynnu mwy oddi arnynt hwy nag oddi ar yr ystafelloedd ar loriau isaf a chanol yr adeilad.

6Nid oedd colofnau i ystafelloedd y trydydd llawr, fel yn y cynteddau, ac felly yr oedd eu lloriau'n llai na rhai'r lloriau isaf a chanol.

7Yr oedd y mur y tu allan yn gyfochrog �'r ystafelloedd, a chyferbyn � hwy, ac yn ymestyn i gyfeiriad y cyntedd nesaf allan; yr oedd yn hanner can cufydd o hyd.

8Yr oedd y rhes ystafelloedd ar yr ochr nesaf at y cyntedd allanol yn hanner can cufydd o hyd, a'r rhai ar yr ochr nesaf i'r cysegr yn gan cufydd.

9Islaw'r ystafelloedd hyn yr oedd mynediad o du'r dwyrain, fel y deuir atynt o'r cyntedd nesaf allan,

10lle mae'r mur allanol yn cychwyn. Tua'r de, gyferbyn �'r cwrt a chyferbyn �'r adeilad, yr oedd ystafelloedd,

11gyda rhodfa o'u blaen. Yr oeddent yn debyg i ystafelloedd y gogledd; yr un oedd eu hyd a'u lled, a hefyd eu mynedfeydd a'u cynllun. Yr oedd drysau'r ystafelloedd yn y gogledd

12yn debyg i ddrysau'r ystafelloedd yn y de. Ar ben y llwybr, yr oedd drws yn y mur mewnol i gyfeiriad y dwyrain, er mwyn dod i mewn.

13Yna dywedodd wrthyf, "Y mae ystafelloedd y gogledd ac ystafelloedd y de, sy'n wynebu'r cwrt, yn ystafelloedd cysegredig, lle bydd yr offeiriaid sy'n dynesu at yr ARGLWYDD yn bwyta'r offrymau sancteiddiaf; yno y byddant yn rhoi'r offrymau sancteiddiaf, y bwydoffrwm, yr aberth dros bechod a'r aberth dros gamwedd, oherwydd lle cysegredig ydyw.

14Pan fydd yr offeiriaid wedi dod i mewn i'r cysegr, nid ydynt i fynd allan i'r cyntedd nesaf allan heb adael ar �l y gwisgoedd a oedd ganddynt wrth wasanaethu, oherwydd y maent yn sanctaidd. Y maent i wisgo dillad eraill i fynd allan lle mae'r bobl."

15Wedi iddo orffen mesur oddi mewn i safle'r deml, aeth � mi allan trwy'r porth oedd i gyfeiriad y dwyrain, a mesur yr hyn oedd oddi amgylch.

16Mesurodd ochr y dwyrain �'r ffon fesur, a chael y mesur oddi amgylch yn bum can cufydd.

17Mesurodd ochr y gogledd �'r ffon fesur, a chael y mesur oddi amgylch yn bum can cufydd.

18Mesurodd ochr y de �'r ffon fesur, a chael y mesur yn bum can cufydd.

19Aeth drosodd i ochr y gorllewin, a mesurodd �'r ffon fesur bum can cufydd.

20Fe'i mesurodd ar y pedair ochr. Yr oedd mur oddi amgylch, yn bum can cufydd o hyd ac yn bum can cufydd o led, i wahanu rhwng y sanctaidd a'r cyffredin.

>