Eseciel 47:1-23 BCN1988 - Bible AI

1Aeth y dyn � mi'n �l at ddrws y deml, a gwelais ddu373?r yn dod allan o dan riniog y deml tua'r dwyrain, oherwydd wynebai'r deml tua'r dwyrain; yr oedd y du373?r yn dod i lawr o dan ochr dde'r deml, i'r de o'r allor.

2Yna aeth � mi allan trwy borth y gogledd, a'm harwain oddi amgylch o'r tu allan at borth y dwyrain, ac yr oedd y du373?r yn llifo o'r ochr dde.

3Wrth i'r dyn fynd allan tua'r dwyrain � llinyn mesur yn ei law, mesurodd fil o gufyddau, a'm harwain trwy ddyfroedd oedd at y fferau.

4Yna mesurodd fil arall, a'm harwain trwy ddyfroedd oedd at y gliniau; a mesurodd fil arall, a'm harwain trwy ddyfroedd oedd at y wasg.

5Mesurodd fil arall eto, ond yr oedd yn afon na allwn ei chroesi, oherwydd yr oedd y dyfroedd wedi codi gymaint fel y gellid nofio ynddynt, ac yn afon na ellid ei chroesi.

6A dywedodd wrthyf, "Fab dyn, a welaist ti hyn?" Yna aeth � mi'n �l at lan yr afon.

7Pan gyrhaeddais yno, gwelais nifer mawr o goed ar ddwy lan yr afon.

8Dywedodd wrthyf, "Y mae'r dyfroedd hyn yn llifo i diriogaeth y dwyrain, ac yna i lawr i'r Araba ac i mewn i'r m�r, y m�r y mae ei ddyfroedd yn ddrwg, ac fe'u purir.

9Bydd pob math o ymlusgiaid yn byw lle bynnag y llifa'r afon, a bydd llawer iawn o bysgod, oherwydd bydd yr afon hon yn llifo yno ac yn puro'r dyfroedd; bydd popeth yn byw lle llifa'r afon.

10Bydd pysgotwyr yn sefyll ar y lan, ac o En-gedi hyd En-eglaim bydd lle i daenu rhwydau; bydd llawer math o bysgod, fel pysgod y M�r Mawr.

11Ni fydd y rhosydd a'r corsydd yn cael eu puro, ond fe'u gadewir ar gyfer halen.

12Ar y glannau oddeutu'r afon fe dyf coed ffrwythau o bob math, ac ni fydd eu dail yn gwywo na'u ffrwyth yn methu; ffrwythant bob mis, oherwydd bydd y dyfroedd o'r cysegr yn llifo atynt, a bydd eu ffrwyth yn fwyd a'u dail yn iechyd."

13Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: "Dyma'r terfynau ar gyfer rhannu'r wlad yn etifeddiaeth i ddeuddeg llwyth Israel, gyda dwy gyfran i Joseff.

14Yr wyt i'w rhannu'n gyfartal rhyngddynt; tyngais y byddwn yn ei rhoi i'ch hynafiaid, ac fe ddaw'r wlad hon yn etifeddiaeth i chwi.

15Dyma fydd terfyn y wlad: ar ochr y gogledd bydd yn rhedeg o'r M�r Mawr ar hyd ffordd Hethlon heibio i Lebo-hamath i Sedad,

16Berotha a Sibraim, sydd ar y terfyn rhwng Damascus a Hamath, a chyn belled � Haser-hatticon, sydd ar derfyn Hauran.

17Bydd y terfyn yn ymestyn o'r m�r at Hasar-enan ar hyd terfyn gogleddol Damascus, gyda therfyn Hamath i'r gogledd. Dyma fydd terfyn y gogledd.

18Ar ochr y dwyrain bydd yn rhedeg rhwng Hauran a Damascus, ar hyd yr Iorddonen rhwng Gilead a thir Israel, ac at f�r y dwyrain hyd at Tamar. Dyma fydd terfyn y dwyrain.

19Ar ochr y de bydd yn rhedeg o Tamar at ddyfroedd Meriba-cades ac ar hyd yr afon at y M�r Mawr. Dyma fydd terfyn y de.

20Ar ochr y gorllewin, y M�r Mawr fydd y terfyn nes dod gyferbyn � Lebo-hamath. Dyma fydd terfyn y gorllewin.

21Rhannwch y wlad hon rhyngoch yn �l llwythau Israel,

22a'i neilltuo'n etifeddiaeth i chwi ac i'r estroniaid sy'n byw yn eich mysg ac yn magu plant; byddant hwythau yn eich mysg fel rhai o frodorion Israel, ac fel chwithau byddant yn cael etifeddiaeth ymhlith llwythau Israel.

23Ym mha lwyth bynnag y bydd yr estron yn ymsefydlu, yno y byddwch yn rhoi etifeddiaeth iddo, medd yr Arglwydd DDUW.

>