Eseia 11:1-16 BCN1988 - Bible AI

1o'r cyff a adewir i Jesse fe ddaw blaguryn, ac fe dyf cangen o'i wraidd ef;

2bydd ysbryd yr ARGLWYDD yn gorffwys arno, yn ysbryd doethineb a deall, yn ysbryd cyngor a grym, yn ysbryd gwybodaeth ac ofn yr ARGLWYDD;

3ymhyfryda yn ofn yr ARGLWYDD. Nid wrth yr hyn a w�l y barna, ac nid wrth yr hyn a glyw y dyfarna,

4ond fe farna'r tlawd yn gyfiawn a dyfarnu'n uniawn i rai anghenus y ddaear. Fe dery'r ddaear � gwialen ei enau, ac � gwynt ei wefusau fe ladd y rhai drygionus.

5Cyfiawnder fydd gwregys ei lwynau a ffyddlondeb yn rhwymyn am ei ganol.

6Fe drig y blaidd gyda'r oen, fe orwedd y llewpard gyda'r myn; bydd y llo a'r llew yn cydbori, a bachgen bychan yn eu harwain.

7Bydd y fuwch yn pori gyda'r arth, a'u llydnod yn cydorwedd; bydd y llew yn bwyta gwair fel ych.

8Bydd plentyn sugno yn chwarae wrth dwll yr asb, a baban yn estyn ei law dros ffau'r wiber.

9Ni wn�nt ddrwg na difrod yn fy holl fynydd sanctaidd, canys fel y lleinw'r dyfroedd y m�r i'w ymylon, felly y llenwir y ddaear � gwybodaeth yr ARGLWYDD.

10Ac yn y dydd hwnnw bydd gwreiddyn Jesse yn sefyll fel baner i'r bobloedd; bydd y cenhedloedd yn ymofyn ag ef, a bydd ei drigfan yn ogoneddus.

11Ac yn y dydd hwnnw fe estyn yr ARGLWYDD ei law drachefn i adennill gweddill ei bobl a adewir, o Asyria a'r Aifft, o Pathros ac Ethiopia ac Elam, o Sinar a Hamath ac o ynysoedd y m�r.

12Fe gyfyd faner i'r cenhedloedd, a chasglu alltudion Israel; fe gynnull rai gwasgar Jwda o bedwar ban y byd.

13Diflanna cenfigen Effraim, a thorrir ymaith elynion Jwda. Ni chenfigenna Effraim wrth Jwda, ac ni fydd Jwda'n gwrthwynebu Effraim.

14Ond disgynnant ar lethrau'r Philistiaid yn y gorllewin, ac ynghyd fe ysbeiliant y dwyreinwyr; bydd Edom a Moab o fewn eu gafael, a phlant Ammon yn ufudd iddynt.

15Gwna'r ARGLWYDD yn sychdir dafod m�r yr Aifft; chwifia'i law dros yr Ewffrates, ac �'i wynt deifiol fe'i hollta yn saith o ffrydiau, i'w throedio yn droetsych.

16A bydd priffordd i weddill ei bobl, i'r gweddill a adewir o Asyria, megis y bu i Israel pan ddaeth i fyny o wlad yr Aifft.

British and Foreign Bible Society, 1988
/div>