Eseia 12:1-6 BCN1988 - Bible AI

1Yn y dydd hwnnw fe ddywedi, "Molaf di, O ARGLWYDD; er iti ddigio wrthyf, trodd dy lid, a rhoist gysur imi.

2Wele, Duw yw fy iachawdwriaeth; 'rwy'n hyderus, ac nid ofnaf; canys yr ARGLWYDD Dduw yw fy nerth a'm c�n, ac ef yw fy iachawdwr."

3Mewn llawenydd fe dynnwch ddu373?r o ffynhonnau iachawdwriaeth.

4Yn y dydd hwnnw fe ddywedi, "Diolchwch i'r ARGLWYDD, galwch ar ei enw; hysbyswch ei weithredoedd ymhlith y cenhedloedd, cyhoeddwch fod ei enw'n oruchaf.

5Canwch salmau i'r ARGLWYDD, canys enillodd fuddugoliaeth; hysbyser hyn yn yr holl dir.

6Bloeddia, llefa'n llawen, ti sy'n preswylio yn Seion; canys y mae Sanct Israel yn fawr yn eich plith."

British and Foreign Bible Society, 1988
div>