Eseia 15:1-9 BCN1988 - Bible AI

1Yr oracl am Moab: Y noson y dinistrir Ar, fe dderfydd am Moab; y noson y dinistrir Cir, fe dderfydd am Moab.

2Dringa merch Dibon i'r uchelfa i wylo; dros Nebo a thros Medeba fe uda Moab. Bydd moelni ar bob pen, a phob barf wedi ei heillio;

3gwisgir sachliain yn yr heolydd; ar bennau'r tai, ac yn sgw�r y dref, bydd pawb yn udo ac yn beichio wylo.

4Bydd Hesbon ac Eleale yn llefain, a chlywir eu cri hyd Jahas; am hynny bydd lwynau Moab yn crynu, ac yntau yn ysgwyd drwyddo.

5Y mae fy nghalon yn llefain dros Moab. Bydd ei ffoaduriaid yn mynd mor bell � Soar, hyd Eglath�shalisheia; dringant riw Luhith dan wylo, a thorri calon ar ffordd Horonaim.

6Bydd dyfroedd Nimrim yn sychdir; gwywa'r llysiau, metha'r egin, diflanna'r glesni.

7Am hynny cludant dros nant Arabim yr eiddo a'r enillion a gasglwyd ganddynt.

8Aeth y gri o amgylch terfynau Moab, nes bod udo yn Eglaim, ac udo yn Beer-elim.

9Y mae dyfroedd Dimon yn llawn o waed, ond dygaf waeth eto ar Dimon � llew ar warthaf ffoaduriaid Moab, ac ar warthaf y gweddill yn y tir.

British and Foreign Bible Society, 1988
div>