Eseia 16:1-14 BCN1988 - Bible AI

1Anfonodd llywodraethwr y wlad u373?yn o Sela yn yr anialwch i fynydd merch Seion.

2Y mae merched Moab wrth rydau Arnon fel adar aflonydd wedi eu troi o'u nythod.

3Dwg gyngor, gwna dy fwriad yn glir; bydded dy gysgod fel nos drosom, hyd yn oed ar ganol dydd; cuddia'r ffoaduriaid, paid � bradychu'r crwydriaid.

4Bydded i ffoaduriaid Moab aros gyda thi; bydd di yn lloches iddynt rhag y dinistrydd." Pan ddaw diwedd ar drais, a pheidio o'r ysbeilio, a darfod o'r mathrwyr o'r tir,

5yna sefydlir gorsedd trwy deyrngarwch, ac arni fe eistedd un ffyddlon ym mhabell Dafydd, barnwr yn ceisio barn deg ac yn barod i fod yn gyfiawn.

6Clywsom am falchder Moab � mor falch ydoedd � ac am ei thraha, ei malais a'i haerllugrwydd, heb sail i'w hymffrost.

7Am hynny fe uda Moab; uded Moab i gyd. Fe riddfana mewn dryswch llwyr am deisennau grawnwin Cir�hareseth.

8Oherwydd pallodd erwau Hesbon a gwinwydd Sibma; drylliodd arglwyddi'r cenhedloedd ei grawnwin cochion; buont yn cyrraedd hyd at Jaser, ac yn ymestyn trwy'r anialwch. Yr oedd ei blagur yn gwthio allan, ac yn cyrraedd ar draws y m�r.

9Am hynny wylaf dros winwydd Sibma fel yr wylais dros Jaser; dyfrhaf di �'m dagrau, Hesbon ac Eleale; canys ar dy ffrwythau haf ac ar dy gynhaeaf daeth gwaedd.

10Ysgubwyd ymaith y llawenydd a'r gorfoledd o'r dolydd; mwyach ni chenir ac ni floeddir yn y gwinllannoedd, ni sathra'r sathrwr win yn y cafnau, a rhoddais daw ar weiddi'r cynaeafwyr.

11Am hynny fe alara f'ymysgaroedd fel tannau telyn dros Moab, a'm hymysgaroedd dros Cir-hareseth.

12Pan ddaw Moab i addoli, ni wna ond ei flino'i hun yn yr uchelfa; pan ddaw i'r cysegr i wedd�o, ni thycia ddim.

13Dyna'r gair a lefarodd yr ARGLWYDD wrth Moab gynt.

14Yn awr fe ddywed yr ARGLWYDD, "Ymhen tair blynedd, yn �l tymor gwas cyflog, bydd gogoniant Moab yn ddirmyg er cymaint ei rhifedi; bydd y rhai sy'n weddill yn ychydig ac yn ddibwys."

British and Foreign Bible Society, 1988
/div>