Eseia 17:1-14 BCN1988 - Bible AI

1Yr oracl am Ddamascus: "Wele fe beidia Damascus � bod yn ddinas; bydd yn bentwr o adfeilion.

2Gwrthodir ei dinasoedd am byth, a byddant yn lle i ddiadelloedd orwedd ynddo heb neb i'w cyffroi.

3Derfydd am y gaer yn Effraim, ac am y frenhiniaeth yn Namascus; bydd gweddill Syria fel gogoniant Israel," medd ARGLWYDD y Lluoedd.

4Ac yn y dydd hwnnw, bydd gogoniant Jacob yn cilio a braster ei gig yn darfod.

5Pan fydd medelwr yn casglu'r cnwd u375?d, ac yn medi'r tywysennau �'i fraich, bydd fel lloffa tywysennau yn nyffryn Reffaim.

6Ac ni chaiff ond gweddillion wrth guro'r olewydd, dim ond dau ffrwyth neu dri ar flaen y brigau, pedwar neu bump o ffrwythau ar ganghennau'r coed," medd yr ARGLWYDD, Duw Israel.

7Yn y dydd hwnnw fe edrych pobl at eu Gwneuthurwr, a throi eu golwg at Sanct Israel.

8Nid edrychant at yr allorau, gwaith eu dwylo, nac ychwaith at yr hyn a wnaeth eu bysedd � y pyst cysegredig a'r allorau arogldarthu.

9Yn y dydd hwnnw y gadewir eu dinasoedd cadarn fel adfeilion dinasoedd yr Hefiaid a'r Amoriaid, a adawyd o achos yr Israeliaid; a byddant yn ddiffaith.

10Oherwydd anghofiaist y Duw a'th achubodd; ni chofiaist graig dy gadernid; am hynny, er i ti blannu planhigion hyfryd a gosod impyn estron,

11a'u cael i dyfu ar y dydd y plennaist hwy ac i flodeuo yn y bore yr heuaist hwy, bydd y cnwd wedi crino mewn dydd o ofid a gwendid nychlyd.

12Och! Twrf pobloedd lawer yn taranu fel tonnau'r m�r; y mae rhuad y bobloedd fel rhuad dyfroedd cryfion.

13Er bod y bobloedd yn rhuo fel rhuad dyfroedd mawrion, pan geryddir hwy, fe ffoant ymhell; erlidir hwy fel peiswyn ar fynydd o flaen y gwynt, fel plu ysgall o flaen corwynt.

14Tua'r hwyrddydd wele drallod; cyn y bore aeth y cyfan. Dyma dynged ein hysbeilwyr, dyma ran ein rheibwyr.

British and Foreign Bible Society, 1988
/div>