Eseia 18:1-7 BCN1988 - Bible AI

1Gwae wlad yr adenydd chwim, sydd tu draw i afonydd Ethiopia,

2ac yn anfon cenhadau dros y m�r mewn cychod o bapurfrwyn ar wyneb y dyfroedd. Ewch, chwi negeswyr cyflym, at genedl sy'n dal ac yn llyfn, at bobl a ofnir ymhell ac agos, cenedl gref sy'n mathru eraill, a'i thir wedi ei rannu gan afonydd.

3Chwi, holl drigolion byd a phobl y ddaear, edrychwch pan godir baner ar y mynyddoedd, gwrandewch pan g�n yr utgorn.

4Fel hyn y dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf: "Gwyliaf yn llonydd o'm trigfan, yr un fath � thes yr haul a chwmwl gwlith yng ngwres y cynhaeaf."

5Canys cyn y cynhaeaf, pan dderfydd y blodau, a'r tusw blodau yn troi'n rawnwin aeddfed, torrir ymaith y brigau � chyllell finiog, a thynnir i ffwrdd y cangau sydd ar led.

6Fe'u gadewir i gyd i adar rheibus y mynydd ac i anifeiliaid gwylltion. Yno bydd yr adar rheibus yn treulio'r haf, a'r anifeiliaid gwylltion yn gaeafu.

7Yn yr amser hwnnw dygir rhoddion i ARGLWYDD y Lluoedd gan bobl dal a llyfn, pobl a ofnir ymhell ac agos, cenedl gref sy'n mathru eraill, a'i thir wedi ei rannu gan afonydd, i'r lle sy'n dwyn enw ARGLWYDD y Lluoedd, Mynydd Seion.

British and Foreign Bible Society, 1988
div>