Eseia 19:1-25 BCN1988 - Bible AI

1Yr oracl am yr Aifft: Wele'r ARGLWYDD yn marchogaeth ar gwmwl buan, ac yn dod i'r Aifft; bydd eilunod yr Aifft yn crynu o'i flaen, a chalon yr Eifftiaid yn toddi o'u mewn.

2Gyrraf Eifftiwr yn erbyn Eifftiwr; ymladd brawd yn erbyn brawd, a chymydog yn erbyn cymydog, dinas yn erbyn dinas, a theyrnas yn erbyn teyrnas.

3Palla ysbryd yr Eifftiaid o'u mewn, a drysaf eu cynlluniau; �nt i ymofyn �'u heilunod a'u swynwyr, �'u dewiniaid a'u dynion hysbys.

4Trosglwyddaf yr Aifft i feistr caled, a theyrnasa brenin creulon arnynt," medd yr Arglwydd, ARGLWYDD y Lluoedd.

5Sychir dyfroedd y Neil, bydd yr afon yn hesb a sych,

6y ffosydd yn drewi, ffrydiau y Neil yn edwino gan sychder, a'r brwyn a'r helyg yn gwywo;

7bydd lleiniau o dir moel wrth y Neil, a bydd popeth a heuir gyda glan yr afon yn crino ac yn diflannu'n llwyr.

8Bydd y pysgotwyr yn trist�u ac yn cwynfan, pob un sy'n taflu bach yn y Neil; bydd y rhai sy'n bwrw rhwydi ar y dyfroedd yn dihoeni.

9Bydd gweithwyr llin mewn trallod, a'r cribwragedd a'r gwehyddion yn gwelwi.

10Bydd y rhai sy'n nyddu yn benisel a phob crefftwr yn torri ei galon.

11o'r fath ffyliaid, chwi dywysogion Soan, y doethion sy'n cynghori Pharo � chyngor hurt! Sut y gallwch ddweud wrth Pharo, "Mab y doethion wyf fi, o hil yr hen frenhinoedd"?

12Ble mae dy ddoethion? Bydded iddynt lefaru'n awr, a'th ddysgu beth a fwriadodd ARGLWYDD y Lluoedd ynglu375?n �'r Aifft.

13Gwnaed tywysogion Soan yn ffyliaid, a thwyllwyd tywysogion Noff; aeth penaethiaid ei llwythau �'r Aifft ar gyfeiliorn.

14Cynhyrfodd yr ARGLWYDD ysbryd drygioni o'i mewn, a gwneud i'r Aifft gyfeiliorni ym mhopeth a wna, fel y bydd meddwyn yn ymdroi yn ei gyfog.

15Ni bydd dim y gellir ei wneud i'r Aifft gan neb, na phen na chynffon, na changen na brwynen.

16Yn y dydd hwnnw bydd yr Eifftiaid fel gwragedd yn crynu gan ofn o flaen y llaw y bydd ARGLWYDD y Lluoedd yn ei hysgwyd yn eu herbyn.

17Bydd tir Jwda yn arswyd i'r Aifft, a phob s�n amdano yn codi ofn arni, oherwydd y cynllun a fwriadodd ARGLWYDD y Lluoedd yn ei herbyn.

18Yn y dydd hwnnw bydd pump o ddinasoedd yr Aifft yn siarad iaith Canaan, ac yn tyngu llw o ffyddlondeb i ARGLWYDD y Lluoedd. Enw un ohonynt fydd Dinas yr Haul.

19Yn y dydd hwnnw bydd allor i'r ARGLWYDD yng nghanol yr Aifft, a cholofn i'r ARGLWYDD ar ei goror.

20Bydd yn arwydd ac yn dystiolaeth i ARGLWYDD y Lluoedd yng ngwlad yr Aifft; pan lefant ar yr ARGLWYDD oherwydd eu gorthrymwyr, bydd yntau yn anfon gwaredydd iddynt i'w hamddiffyn a'u hachub.

21Bydd yr ARGLWYDD yn ei wneud ei hun yn adnabyddus i'r Eifftiaid, a byddant hwythau'n cydnabod yr ARGLWYDD yn y dydd hwnnw, ac yn ei addoli ag aberth a bwydoffrwm, ac yn addunedu i'r ARGLWYDD ac yn talu eu haddunedau iddo.

22Bydd yr ARGLWYDD yn taro'r Aifft, yn ei tharo ac yn ei gwella; pan ddychwelant at yr ARGLWYDD bydd yntau'n gwrando arnynt ac yn eu hiach�u.

23Yn y dydd hwnnw bydd priffordd o'r Aifft i Asyria; fe �'r Asyriaid i'r Aifft a'r Eifftiaid i Asyria, a bydd yr Eifftiaid yn addoli gyda'r Asyriaid.

24Yn y dydd hwnnw bydd Israel yn un o dri, gyda'r Aifft ac Asyria, ac yn gyfrwng bendith yng nghanol y byd.

25Bendith ARGLWYDD y Lluoedd fydd, "Bendith ar yr Aifft, fy mhobl, ac ar Asyria, gwaith fy nwylo, ac ar Israel, f'etifeddiaeth."

British and Foreign Bible Society, 1988
/div>