1Y gair a welodd Eseia fab Amos am Jwda a Jerwsalem:
2Yn y dyddiau diwethaf bydd mynydd tu375?'r ARGLWYDD wedi ei osod yn ben ar y mynyddoedd ac yn uwch na'r bryniau. Dylifa'r holl genhedloedd ato,
3a daw pobloedd lawer, a dweud, "Dewch, esgynnwn i fynydd yr ARGLWYDD, i deml Duw Jacob; bydd yn dysgu i ni ei ffyrdd, a byddwn ninnau'n rhodio yn ei lwybrau." Oherwydd o Seion y daw'r gyfraith, a gair yr ARGLWYDD o Jerwsalem.
4Barna ef rhwng cenhedloedd, a thorri'r ddadl i bobloedd lawer; curant eu cleddyfau'n geibiau, a'u gwaywffyn yn grymanau. Ni chyfyd cenedl gleddyf yn erbyn cenedl, ac ni ddysgant ryfel mwyach.
5Tu375? Jacob, dewch, rhodiwn yng ngoleuni'r ARGLWYDD.
6Gwrthodaist du375? Jacob, dy bobl, oherwydd y maent yn llawn dewiniaid o'r dwyrain, a swynwyr fel y Philistiaid, ac y maent yn gwneud cyfeillion o estroniaid.
7Y mae eu gwlad yn llawn o arian ac aur, ac nid oes terfyn ar eu trysorau; y mae eu gwlad yn llawn o feirch, ac nid oes terfyn ar eu cerbydau;
8y mae eu gwlad yn llawn o eilunod; ymgrymant i waith eu dwylo, i'r hyn a wnaeth eu bysedd.
9Am hynny y gostyngir y ddynoliaeth, ac y syrth pob un � paid � maddau iddynt.
10Ewch i'r graig, ymguddiwch yn y llwch rhag ofn yr ARGWYDD, a rhag ysblander ei fawrhydi ef.
11Fe syrth uchel drem y ddynoliaeth, a gostyngir balchder pob un; yr ARGLWYDD yn unig a ddyrchefir yn y dydd hwnnw.
12Canys y mae gan ARGLWYDD y Lluoedd ddydd yn erbyn pob un balch ac uchel, yn erbyn pob un dyrchafedig ac uchel,
13yn erbyn holl gedrwydd Lebanon, sy'n uchel a dyrchafedig; yn erbyn holl dderi Basan,
14yn erbyn yr holl fynyddoedd uchel ac yn erbyn pob bryn dyrchafedig;
15yn erbyn pob tu373?r uchel ac yn erbyn pob magwyr gadarn;
16yn erbyn holl longau Tarsis ac yn erbyn yr holl gychod pleser.
17Yna fe ddarostyngir uchel drem y ddynoliaeth, ac fe syrth balchder y natur ddynol. Yr ARGLWYDD yn unig a ddyrchefir yn y dydd hwnnw.
18�'r eilunod heibio i gyd.
19� pawb i holltau yn y creigiau ac i dyllau yn y ddaear, rhag ofn yr ARGLWYDD, a rhag ysblander ei fawrhydi ef, pan gyfyd i ysgwyd y ddaear.
20Yn y dydd hwnnw bydd pobl yn taflu eu heilunod arian a'r eilunod aur a wnaethant i'w haddoli, yn eu taflu i'r tyrchod daear a'r ystlumod;
21ac yn mynd i ogofeydd yn y creigiau ac i holltau yn y clogwyni, rhag ofn yr ARGLWYDD, a rhag ysblander ei fawrhydi ef, pan gyfyd i ysgwyd y ddaear.
22Peidiwch � gwneud dim � meidrolyn sydd ag anadl yn ei ffroenau, canys pa werth sydd iddo?