1Yr oracl am anialwch y m�r: Fel corwynt yn chwyrl�o dros y Negef, felly y daw dinistr o'r anialwch, o wlad ofnadwy.
2Mynegwyd gweledigaeth greulon i mi: bradwr yn bradychu, anrheithiwr yn anrheithio. Cod, Elam! I'r gwarchae, Fediaid! Rhof daw ar bob griddfan a achoswyd.
3Am hynny llanwyd fy lwynau � gofid, cydiwyd ynof gan wewyr, fel gwraig wrth esgor; cythryblwyd fi wrth ei glywed, brawychais wrth ei weld.
4Y mae fy meddwl yn drysu, a braw yn fy nirdynnu; trodd yr hwyrddydd a ddymunais yn ddychryn imi.
5Huliant fwrdd, taenant y lliain, y maent yn bwyta ac yfed. Codwch, chwi dywysogion, gloywch eich tarian.
6Oherwydd fel hyn y dywed yr Arglwydd wrthyf: "Dos, gosod wyliwr i fynegi'r hyn a w�l.
7Os bydd yn gweld cerbyd gyda ph�r o feirch, marchog ar asyn neu farchog ar gamel, y mae i sylwi'n ddyfal, ddyfal."
8Yna fe lefodd y gwyliwr, "'Rwyf wedi sefyll ar y tu373?r ar hyd y dydd, O Arglwydd, ac 'rwyf wedi cadw gwyliadwriaeth am nosau cyfan;
9a dyma a ddaeth � gu373?r mewn cerbyd gyda ph�r o feirch, yn dweud, 'Y mae wedi syrthio! Y mae Babilon wedi syrthio, a holl ddelwau ei duwiau wedi eu dryllio i'r llawr.'"
10Chwi, fy eiddo a fu dan y dyrnwr ac a nithiwyd, mynegais i chwi yr hyn a glywais gan ARGLWYDD y Lluoedd, Duw Israel.
11Yr oracl am Duma: Geilw un arnaf o Seir, "O wyliwr, beth am y nos? O wyliwr, beth am y nos?"
12Atebodd y gwyliwr, "Daw bore, a nos hefyd. Os ydych am ofyn, gofynnwch, a dewch yn �l eto."
13Yr oracl am Arabia: Yn llwyni Arabia y lletywch, chwi garafanau Dedanim;
14dewch � diod i gyfarfod y rhai sychedig. Chwi drigolion Tema, ewch i gyfarfod y ff�edigion � bara;
15oherwydd ffoesant rhag y cleddyf, rhag y cleddyf noeth a'r bwa anelog, a rhag pwys y frwydr.
16Oherwydd fel hyn y dywed yr Arglwydd wrthyf: "O fewn blwyddyn, yn �l tymor gwas cyflog, daw diwedd ar holl ogoniant Cedar;
17ychydig o saethwyr bwa o blith gwu375?r grymus Cedar a fydd yn weddill." Llefarodd yr ARGLWYDD, Duw Israel.