Eseia 22:1-25 BCN1988 - Bible AI

1Yr oracl am ddyffryn y weledigaeth: Beth sy'n bod? Pam y mae pawb ohonoch wedi dringo i bennau'r tai?

2Dinas yn llawn cynnwrf, un mewn terfysg, tref mewn berw! Ni laddwyd dy laddedigion �'r cleddyf, na'th feirwon mewn brwydr.

3Ffodd dy arweinwyr i gyd gyda'i gilydd, fe'u daliwyd heb blygu bwa; daliwyd dy filwyr praffaf i gyd gyda'i gilydd, er iddynt ffoi ymhell i ffwrdd.

4Am hynny dywedais, "Trowch eich golwg oddi wrthyf, gadewch i mi wylo'n chwerw; peidiwch � cheisio fy niddanu am ddinistr merch fy mhobl."

5Oherwydd y mae gan yr Arglwydd, ARGLWYDD y Lluoedd, ddiwrnod o derfysg, o fathru ac o ddryswch yn nyffryn y weledigaeth, diwrnod o falurio ceyrydd ac o weiddi yn y mynyddoedd.

6Cododd Elam ei gawell saethau, bachwyd meirch wrth gerbydau Aram, dinoethodd Cir ei tharian.

7Aeth eich dyffrynnoedd dethol yn llawn cerbydau, a'r gwu375?r meirch yn gwarchae ar y pyrth;

8dinoethwyd amddiffynfa Jwda. Yn y dydd hwnnw buoch yn archwilio'r arfogaeth yn Nhu375?'r Goedwig,

9yn edrych y bylchau yn Ninas Dafydd am eu bod yn niferus, ac yn cronni dyfroedd y Llyn Isaf.

10Buoch hefyd yn rhifo tai Jerwsalem a thynnu rhai i lawr i ddiogelu'r mur;

11gwnaethoch gronfa rhwng y ddau fur i ddal y dyfroedd o'r Hen Lyn. Ond ni roesoch sylw i'r un a'i gwnaeth, nac ystyried yr hwn a'i lluniodd erstalwm.

12Yn y dydd hwnnw, fe alwodd yr Arglwydd, ARGLWYDD y Lluoedd, am wylofain a galaru, am eillio pen a gwregysu � sachliain;

13ond dyma lawenydd a gorfoledd, lladd gwartheg a lladd defaid, bwyta cig ac yfed gwin, a dweud, "Gadewch inni fwyta ac yfed, oherwydd yfory byddwn farw."

14Datguddiodd ARGLWYDD y Lluoedd hyn yn fy nghlyw, a dweud, "Yn wir, ni lanheir yr drygioni hwn nes i chwi farw." Dyna a ddywedodd yr Arglwydd, ARGLWYDD y Lluoedd.

15Dyma'r hyn a ddywed yr Arglwydd, ARGLWYDD y Lluoedd: "Dos, a gofyn i'r swyddog hwn, Sebna, arolygydd y tu375?,

16'Beth a wnei di yma, pwy sydd gennyt yma, dy fod wedi torri bedd yma i ti dy hun, gan dorri dy fedd ar le uchel a naddu claddfa i ti dy hun mewn craig?

17Wele, bydd yr ARGLWYDD yn gafael yn dynn ynot ac yn dy hyrddio i lawr, u373?r cryf;

18bydd yn dy chwyrl�o amgylch ogylch, ac yn dy daflu fel p�l ar faes agored, llydan. Yno y byddi farw, ac yno yr erys dy gerbydau mawreddog, yn warth i du375? dy feistr.

19Fe'th yrraf o'th swydd, ac fe'th fwrir o'th safle.'"

20Yn y dydd hwnnw byddaf yn galw am fy ngwas Eliacim fab Hilceia,

21ac yn ei wisgo �'th fantell di, ac yn rhwymo dy wregys amdano, ac yn rhoi d'awdurdod di yn ei law. Bydd ef yn dad i drigolion Jerwsalem ac i bobl Jwda.

22Gosodaf allwedd tu375? Dafydd ar ei ysgwydd; beth bynnag y bydd yn ei agor, ni fydd neb yn gallu ei gau, a beth bynnag y bydd yn ei gau, ni fydd neb yn gallu ei agor.

23Byddaf yn ei osod yn sicr, fel hoelen yn ei lle; bydd yn orsedd ogoneddus yn nhu375? ei dad.

24Ef fydd yn cynnal holl bwys y teulu, yr hil a'r epil, sef yr holl lestri m�n, yn gwpanau ac yn gawgiau.

25Yn y dydd hwnnw," medd ARGLWYDD y Lluoedd, "fe symudir yr hoelen a osodwyd yn sicr yn ei lle; fe'i torrir ac fe syrthia; dryllir hefyd y llwyth a oedd arni." Llefarodd yr ARGLWYDD.

British and Foreign Bible Society, 1988
/div>