Eseia 23:1-18 BCN1988 - Bible AI

1Yr oracl am Tyrus: Udwch, longau Tarsis, oherwydd anrheithiwyd y porthladd; wrth groesi o dir Chittim fe welir hynny.

2Wylwch, drigolion y glannau, masnachwyr Sidon, sy'n tramwyo'r m�r,

3a'th weision ar y dyfroedd mawrion; cnwd Sihor, cynhaeaf y Neil, oedd dy gyllid, a masnachwr y cenhedloedd oeddit ti.

4Cywilydd arnat, Sidon, canys llefarodd y m�r, caer y m�r, a dweud, "Nid wyf mewn gwewyr nac yn esgor, nac yn magu llanciau nac yn meithrin morynion."

5Pan ddaw'r newydd i'r Aifft, gwingant wrth glywed am Tyrus.

6Ewch drosodd i Tarsis; udwch, drigolion y glannau.

7Ai hon yw eich dinas brysur, sydd �'i hanes mor hen, a'i theithio wedi mynd � hi i ymsefydlu mor bell?

8Pwy a gynlluniodd hyn yn erbyn Tyrus goronog, oedd �'i masnachwyr yn dywysogion a'i marchnatwyr yn fawrion y ddaear?

9ARGLWYDD y Lluoedd a'i cynlluniodd, i ddifwyno pob gogoniant balch, i ddiraddio holl fawrion y ddaear.

10Dos trwy dy dir, fel y gwna'r Neil, ferch Tarsis; nid oes atalfa mwyach.

11Estynnodd yr ARGLWYDD ei law dros y m�r, ysgydwodd deyrnasoedd; rhoes orchymyn ynghylch Canaan, i ddinistrio ei cheyrydd.

12A dywedodd, "Ni chei ymffrostio ddim mwy, ti forwyn a orthrymwyd, ferch Sidon; cod, dos drosodd i Chittim, ond ni chei orffwys yno chwaith."

13Edrych ar wlad y Caldeaid. Y rhain � nid yr Asyriaid � yw'r bobl a bennodd Tyrus i'r anifeiliaid gwylltion. Hwy a gododd warchae, a dryllio'i phalasau, a'i thynnu i lawr yn adfeilion.

14Udwch, chwi longau Tarsis, oherwydd anrheithiwyd eich amddiffynfa.

15Yn yr amser hwnnw fe anghofir Tyrus am ddeng mlynedd a thrigain, sef hyd einioes un brenin; ac ymhen deng mlynedd a thrigain bydd cyflwr Tyrus fel y butain yn y g�n:

16Cymer dy delyn, rhodianna trwy'r ddinas, di butain a anghofiwyd; tyn yn dyner ar y tannau, c�n dy ganeuon yn aml, fel y cofir di drachefn."

17Ar ddiwedd y deng mlynedd a thrigain, bydd yr ARGLWYDD yn ymweld eto � Tyrus; fe � hithau'n �l at ei masnach a'i llogi ei hun i bob teyrnas ar y ddaear.

18Ond bydd ei helw a'i henillion wedi eu neilltuo i'r ARGLWYDD; ni chronnir hwy na'u cuddio, ond bydd ei masnach yn darparu llawnder o fwyd a gwisgoedd hardd i'r rhai sy'n byw yng ngu373?ydd yr ARGLWYDD.

British and Foreign Bible Society, 1988
/div>