Eseia 29:1-24 BCN1988 - Bible AI

1Gwae Ariel, Ariel, y ddinas lle gwersyllodd Dafydd. Gadewch i'r blynyddoedd fynd heibio, aed y gwyliau yn eu cylch;

2yna dygaf gyfyngder ar Ariel, a bydd galar a chwynfan; bydd yn Ariel mewn gwirionedd i mi.

3Gwersyllaf o'th gwmpas fel cylch, gwarchaeaf o'th amgylch � thyrau, codaf offer gwarchae yn dy erbyn.

4Fe'th ddarostyngir, a byddi'n llefaru o'r pridd, ac yn sisial dy eiriau o'r llwch; daw dy lais fel llais ysbryd o'r pridd, daw sibrwd dy eiriau o'r llwch.

5Ond bydd tyrfa dy elynion fel llwch m�n, a thyrfa dy gaseion fel us yn mynd heibio; yna'n sydyn, ar amrantiad,

6fe'th gosbir gan ARGLWYDD y Lluoedd � tharan a daeargryn a su373?n mawr, � storm a thymestl a fflam d�n ysol.

7Bydd holl dyrfa'r cenhedloedd sy'n rhyfela yn erbyn Ariel, yn erbyn ei holl amddiffynfa a'i chadernid, ac yn ei gormesu, fel breuddwyd, fel gweledigaeth nos �

8fel y bydd y newynog yn breuddwydio ei fod yn bwyta, ac yn deffro a'i gael ei hun yn wag, fel y bydd y sychedig yn breuddwydio ei fod yn yfed, ac yn deffro a'i gael ei hun yn wan a sychedig. Felly y bydd gyda thyrfa'r holl genhedloedd sy'n rhyfela yn erbyn Mynydd Seion.

9Safwch yn syn a syfrdan, yn ddall a hurt; ewch yn feddw, ond nid ar win, yn chwil, ond nid ar ddiod gadarn.

10Canys tywalltodd yr ARGLWYDD arnoch ysbryd trwmgwsg; caeodd eich llygaid, sef y proffwydi, a gorchuddiodd eich pennau, sef y gweledyddion.

11Aeth y broffwydoliaeth i gyd fel geiriau llyfr dan s�l. Os rhoddir ef i un a all ddarllen, a dweud, "Darllen hwn i mi", fe etyb, "Ni allaf, oherwydd y mae wedi ei selio."

12Ac os rhoddir ef i un na all ddarllen, a dweud, "Darllen hwn i mi", fe etyb, "Ni fedraf ddarllen."

13Yna fe ddywedodd yr ARGLWYDD, "Oherwydd bod y bobl hyn yn nes�u ataf a thalu gwrogaeth i mi � geiriau yn unig, ond eu calon ymhell oddi wrthyf, a'u parch i mi yn ddim ond cyfraith ddynol wedi ei dysgu ar gof,

14am hynny wele fi'n gwneud rhyfeddod eto, ac yn syfrdanu'r bobl hyn; difethir doethineb eu doethion a chuddir deall y rhai deallus."

15Gwae y rhai sy'n cloddio'n ddwfn i gadw eu cynllwyn yn gudd rhag yr ARGLWYDD; am fod eu gwaith yn y tywyllwch, dywedant, "Pwy sy'n ein gweld? Pwy sy'n gwybod?"

16Troi popeth o chwith yr ydych. A yw'r crochenydd i'w ystyried fel clai? A ddywed y peth a wnaethpwyd am ei wneuthurwr, "Nid ef a'm gwnaeth"? A ddywed y llestr am ei luniwr, "Nid yw'n deall"?

17Onid ychydig bach fydd eto nes troi Lebanon yn ddoldir, a'r doldir yn cael ei ystyried yn goetir?

18Yn y dydd hwnnw bydd y rhai byddar yn clywed geiriau o lyfr, a llygaid y deillion yn gweld allan o'r tywyllwch dudew.

19Caiff y rhai llariaidd eto lawenychu yn yr ARGLWYDD, a'r tlotaf o bobl ymffrostio yn Sanct Israel.

20Darfu am y rhai creulon, peidiodd y rhai trahaus, torrir ymaith bob un sy'n barod i wneud drygioni,

21a phawb sy'n cyhuddo dyn o gamwedd, yn gosod magl i'r un sy'n erlyn yn y porth, ac yn atal barn trwy dwyllo'r cyfiawn.

22Am hynny, fel hyn y dywed yr ARGLWYDD wrth du375? Jacob, y Duw a waredodd Abraham: "Nid yw'n amser i Jacob gywilyddio, nac yn awr i'w wyneb welwi;

23pan w�l ef ei blant, gwaith fy nwylo o'i fewn, fe sancteiddiant fy enw, sancteiddiant Sanct Jacob, ac ofnant Dduw Israel;

24a bydd y rhai cyfeiliornus o ysbryd yn dysgu deall, a'r rhai gwrthnysig yn derbyn gwers."

British and Foreign Bible Society, 1988
/div>