Eseia 3:1-26 BCN1988 - Bible AI

1Wele, y mae'r Arglwydd, ARGLWYDD y Lluoedd, yn symud ymaith o Jerwsalem a Jwda y gynhaliaeth a'r ffon � yr holl gynhaliaeth o fara ac o ddu373?r �

2y gu373?r cadarn, y rhyfelwr, y barnwr a'r proffwyd, y dewinwr a'r henadur,

3y capten a'r swyddog, y cynghorwr a'r swynwr celfydd, a'r sawl sy'n deall hudoliaeth.

4Gosodaf fechgyn yn swyddogion arnynt a phlantos i'w rheoli;

5a bydd y bobl yn gorthrymu ei gilydd, a phob un ei gymydog; bydd y llanc yn drahaus yn erbyn yr henwr, yn y parchus.

6Pan gaiff rhywun afael ar ei frawd yn nhu375? ei dad, fe ddywed, "Y mae gennyt ti glogyn; bydd di'n bennaeth arnom; bydded y pentwr hwn o garnedd dan dy awdurdod di."

7Ond yn y dydd hwnnw fe etyb, "Na, ni allaf fod yn arweinydd arnoch. Nid oes bara yn fy nhu375?, na chlogyn ychwaith; ni chewch fy ngosod i yn bennaeth y tylwyth."

8Cwympodd Jerwsalem, syrthiodd Jwda; y mae eu geiriau a'u gweithredoedd yn erbyn yr ARGLWYDD, yn herio ei fawrhydi.

9Y mae'r olwg ar eu hwynebau yn tystio yn eu herbyn, ac y maent yn cyhoeddi eu pechodau fel Sodom. Gwae hwy! Y maent yn dwyn drwg arnynt eu hunain.

10Dywedwch y bydd yn dda ar y cyfiawn, canys c�nt fwyta ffrwyth eu gweithredoedd.

11Gwae'r anwir! Bydd yn ddrwg arno, canys fe gaiff yr hyn a haedda.

12Plant sy'n gorthrymu fy mhobl, a gwragedd sy'n eu rheoli. O fy mhobl, y mae dy arweinwyr yn dy gamarwain, ac yn drysu trywydd dy lwybrau.

13Y mae'r ARGLWYDD yn sefyll i ddadlau ei achos, ac yn barod i farnu ei bobl.

14Y mae'r ARGLWYDD yn dod i farn yn erbyn henuriaid y bobl a'u swyddogion: "Yr ydych wedi lloffa'r winllan yn llwyr; y mae cyfran y tlawd yn eich tai.

15Beth yw eich meddwl, yn ysigo fy mhobl ac yn mathru wyneb y tlawd?" medd yr Arglwydd, ARGLWYDD y Lluoedd.

16Dywedodd yr ARGLWYDD, "Oherwydd i ferched Seion dorsythu, a cherdded o amgylch �'u gyddfau'n ymestyn allan, a'u llygaid yn cilwenu, a'u camau'n fursennaidd, a rhodio � fferledau am eu traed,

17bydd yr ARGLWYDD yn rhoi clafr ar gorun merched Seion, bydd yr ARGLWYDD yn dinoethi eu gwarthle hwy."

18Yn y dydd hwnnw bydd yr ARGLWYDD yn symud ymaith bob addurn � y fferledau, y coronigau, y cilgantiau,

19y clustlysau, y breichledau, y gorchuddion,

20y penwisgoedd, y cadwyni, y gwregys, y blychau perarogl, y m�n swyndlysau;

21y fodrwy-s�l, y fodrwy trwyn;

22y gwisgoedd hardd, y fantell, y glog a'r pyrsau;

23y gwisgoedd sidan a'r gwisgoedd lliain, y twrban a'r gorchudd wyneb.

24Yn lle perarogl bydd drewdod, yn lle gwregys bydd rhaff; yn lle tresi o wallt bydd moelni, yn lle mantell bydd sachliain, yn lle prydferthwch bydd marc llosg.

25Syrth dy wu375?r gan gleddyf, a'th wu375?r nerthol mewn rhyfel;

26bydd pyrth y ddinas yn gofidio a galaru, a hithau wedi ei gadael yn unig, yn eistedd ar y llawr.

British and Foreign Bible Society, 1988
div>