Eseia 32:1-20 BCN1988 - Bible AI

1Wele, bydd brenin yn teyrnasu mewn cyfiawnder, a'i dywysogion yn llywodraethu mewn barn,

2pob un yn gysgod rhag y gwynt ac yn lloches rhag y dymestl, fel afonydd dyfroedd mewn sychdir, fel cysgod craig fawr mewn tir blinedig.

3Ni chaeir llygaid y rhai sy'n gweld, ac fe glyw clustiau'r rhai sy'n gwrando;

4bydd calon y difeddwl yn synied ac yn deall, a thafod y bloesg yn siarad yn llithrig a chlir.

5Ni elwir mwyach y ffu373?l yn fonheddig, ac ni ddywedir bod y cnaf yn llednais.

6Oherwydd y mae'r ffu373?l yn traethu ffolineb, a'i galon yn dyfeisio drygioni, i weithio annuwioldeb, i draethu celwydd am yr ARGLWYDD; y mae'n atal bwyd rhag y newynog, ac yn gwrthod diod i'r sychedig.

7Y mae cynllwyn y cnaf yn faleisus; y mae'n dyfeisio camwri i ddifetha'r tlawd trwy dwyll, a gwadu cyfiawnder i'r anghenus.

8Ond y mae'r anrhydeddus yn gweithredu anrhydedd, ac yn ei anrhydedd y saif.

9Safwch, chwi wragedd moethus, a chlywch; gwrandewch fy ymadroddion, chwi ferched hyderus.

10Ymhen ychydig dros flwyddyn cewch eich ysgwyd o'ch difrawder, oherwydd derfydd y cynhaeaf gwin, a chwithau heb gasglu ffrwyth.

11Chwi sy'n ddiofal, pryderwch, ymysgydwch o'ch difrawder. Tynnwch eich dillad ac ymnoethi; rhowch sachliain am eich lwynau.

12Curwch eich bronnau am y meysydd braf a'r gwinwydd ffrwythlon,

13am dir fy mhobl, sy'n tyfu drain a mieri, ac am yr holl dai diddan yn y ddinas lon.

14Canys cefnwyd ar y palas, a gwacawyd y ddinas boblog. Aeth y gaer a'r tu373?r yn ogofeydd am byth, yn hyfrydwch i'r asynnod gwyllt ac yn borfa i'r preiddiau.

15Pan dywelltir arnom ysbryd oddi fry, a'r anialwch yn mynd yn ddoldir, a'r doldir yn cael ei ystyried yn goetir,

16yna caiff barn drigo yn yr anialwch a chyfiawnder gartrefu yn y doldir;

17bydd cyfiawnder yn creu heddwch, a'i effeithiau yn llonyddwch a diogelwch hyd byth.

18Yna bydd fy mhobl yn trigo mewn bro heddychlon, mewn anheddau diogel, a chartrefi tawel,

19a'r goedwig wedi ei thorri i lawr, a'r ddinas yn gydwastad �'r pridd.

20Gwyn eich byd chwi sy'n hau wrth lan pob afon, ac yn gollwng yr ych a'r asyn yn rhydd.

British and Foreign Bible Society, 1988
/div>