Eseia 39:1-8 BCN1988 - Bible AI

1Yr adeg honno anfonodd Merodach Baladan, mab Baladan brenin Babilon, genhadau gydag anrheg i Heseceia, oherwydd clywsai fod Heseceia wedi bod yn wael ac wedi gwella.

2Croesawodd Heseceia hwy, a dangos iddynt ei drysordy, yr arian a'r aur a'r perlysiau a'r olew persawrus, a hefyd yr holl arfdy a phob peth oedd yn ei storfeydd; nid oedd dim yn ei du375? nac yn ei holl deyrnas nas dangosodd Heseceia iddynt.

3Yna daeth y proffwyd Eseia at y Brenin Heseceia a gofyn, "Beth a ddywedodd y dynion hyn, ac o ble y daethant?" Atebodd Heseceia, "Daethant ataf o wlad bell, o Fabilon."

4Yna holodd, "Beth a welsant yn dy du375??" Dywedodd Heseceia, "Gwelsant y cwbl sydd yn fy nhu375?; nid oes dim yn fy nhrysordy nad wyf wedi ei ddangos iddynt."

5Yna dywedodd Eseia wrth Heseceia, "Gwrando air ARGLWYDD y Lluoedd:

6'Wele 'r dyddiau'n dyfod pan ddygir pob peth sydd yn dy du375? di, a phob peth a grynh�dd dy ragflaenwyr hyd y dydd hwn, i Fabilon, ac ni adewir dim,' medd yr ARGLWYDD.

7'Dygir oddi arnat rai o'r meibion a genhedli, a byddant yn weision ystafell yn llys brenin Babilon.'"

8Yna dywedodd Heseceia wrth Eseia, "o'r gorau; gair yr ARGLWYDD yr wyt yn ei lefaru." Meddyliai, "Bydd heddwch a sicrwydd dros fy nghyfnod i o leiaf."

British and Foreign Bible Society, 1988
div>