1Yn awr, dyma'r hyn a ddywed yr ARGLWYDD a'th greodd, Jacob, ac a'th luniodd, Israel: "Paid ag ofni, oherwydd gwaredaf di; galwaf ar dy enw; eiddof fi ydwyt.
2Pan fyddi'n mynd trwy'r dyfroedd, byddaf gyda thi; a thrwy'r afonydd, ni ruthrant drosot. Pan fyddi'n rhodio trwy'r t�n, ni'th ddeifir, a thrwy'r fflamau, ni losgant di.
3Oherwydd myfi, yr ARGLWYDD dy Dduw, Sanct Israel, yw dy waredydd; rhof yr Aifft yn iawn trosot, Ethiopia a Seba yn gyfnewid amdanat.
4Am dy fod yn werthfawr yn fy ngolwg, yn ogoneddus, a minnau'n dy garu, rhof eraill yn gyfnewid amdanat, a phobloedd am dy einioes.
5Paid ag ofni; yr wyf fi gyda thi. Dygaf dy had o'r dwyrain, casglaf di o'r gorllewin;
6gorchmynnaf i'r gogledd, 'Rho', ac i'r de, 'Paid � dal yn �l; tyrd �'m meibion o bell, a'm merched o eithafoedd byd �
7pob un sydd �'m henw arno, ac a greais i'm gogoniant, ac a luniais, ac a wneuthum.'"
8Dygwch allan y bobl sy'n ddall, er bod llygaid ganddynt, y rhai sy'n fyddar, er bod clustiau ganddynt.
9Y mae'r holl bobl wedi eu casglu ynghyd, a'r bobloedd wedi eu cynnull. Pwy yn eu plith a fynega hyn, a chyhoeddi i ni y pethau gynt? Gadewch iddynt alw tystion i brofi'r achos, a gwrando, a dyfarnu ei fod yn wir.
10Chwi yw fy nhystion," medd yr ARGLWYDD, "fy ngwas, a etholais er mwyn ichwi gael gwybod, a chredu ynof, a deall mai myfi yw Duw. Nid oedd duw wedi ei greu o'm blaen, ac ni fydd yr un ar fy �l.
11Myfi, myfi yw'r ARGLWYDD; nid oes waredydd ond myfi.
12Myfi a fu'n mynegi, yn achub ac yn cyhoeddi, pan nad oedd duw dieithr yn eich plith; ac yr ydych chwi'n dystion i mi," medd yr ARGLWYDD, "mai myfi yw Duw.
13o'r dydd hwn, myfi yw Duw; ni all neb waredu o'm llaw. Beth bynnag a wnaf, ni all neb ei ddadwneud."
14Dyma'r hyn a ddywed yr ARGLWYDD, eich Gwaredydd, Sanct Israel: "Er eich mwyn chwi byddaf yn anfon i Fabilon, ac yn dryllio'r barrau i gyd, a throi c�n y Caldeaid yn wylofain.
15Myfi, yr ARGLWYDD, yw eich Sanct; creawdwr Israel yw eich brenin."
16Dyma'r hyn a ddywed yr ARGLWYDD, a agorodd ffordd yn y m�r a llwybr yn y dyfroedd enbyd;
17a ddug allan gerbyd a march, byddin a dewrion, a hwythau'n gorwedd heb neb i'w codi, yn darfod ac yn diffodd fel llin:
18Peidiwch � meddwl am y pethau gynt, peidiwch ag aros gyda'r hen hanes.
19Edrychwch, 'rwyf yn gwneud peth newydd; y mae'n tarddu yn awr; oni allwch ei adnabod? Yn wir, 'rwy'n gwneud ffordd yn yr anialwch, ac afonydd yn y diffeithwch.
20Bydd anifeiliaid gwylltion yn fy mawrygu, y bleiddiaid a'r estrys, am imi roi du373?r yn yr anialwch ac afonydd yn y diffeithwch, er mwyn rhoi du373?r i'm pobl, f'etholedig,
21sef y bobl a luniais i mi fy hun, iddynt fynegi fy nghlod.
22Jacob, ni elwaist arnaf fi, ond blinaist arnaf, Israel.
23Ni ddygaist i mi ddafad yn boethoffrwm, na'm hanrhydeddu �'th ebyrth; ni roddais faich bwydoffrwm arnat, na'th flino am arogldarth.
24Ni phrynaist i mi galamus ag arian, na'm llenwi �'th ebyrth breision; ond rhoddaist dy bechodau yn faich arnaf, blinaist fi �'th gamweddau.
25Myfi, myfi yw Duw, sy'n dileu dy droseddau er fy mwyn fy hun, heb alw i gof dy bechodau.
26Cyhudda fi, dadleuwn �'n gilydd; gosod dy achos gerbron, iti gael dyfarniad.
27Pechodd dy dad cyntaf, a chododd d'arweinwyr yn f'erbyn,
28a halogodd dy dywysogion fy nghysegr; felly rhoddais Jacob i'w ddinistrio, ac Israel yn waradwydd."