Eseia 46:1-13 BCN1988 - Bible AI

1Crymodd Bel, plygodd Nebo; ar gefn anifail ac ych y mae eu delwau, ac aeth y rhain, a fu'n ddyrchafedig, yn faich ar anifeiliaid blinedig.

2Plygant a chrymant gyda'i gilydd, ni allant arbed y llwyth, ond �nt eu hunain i gaethglud.

3Gwrandewch arnaf fi, du375? Jacob, a phawb sy'n weddill o du375? Israel; buoch yn faich i mi o'r groth, ac yn llwyth i mi o'r bru;

4hyd eich henaint, myfi yw Duw, hyd eich penwynni, mi a'ch cariaf. Myfi sy'n gwneud, myfi sy'n cludo, myfi sy'n cario, a myfi sy'n arbed.

5I bwy y'm cyffelybwch? � phwy y gwnewch fi'n gyfartal? I bwy y'm cymharwch? Pwy sy'n debyg i mi?

6Y mae'r rhai sy'n gwastraffu aur o'r pwrs, ac yn arllwys eu harian i glorian, yn llogi eurych ac yn gwneud duw i'w addoli ac ymgrymu iddo.

7Codant ef ar eu hysgwydd a'i gario, gosodant ef yn ei le, ac yno y saif heb symud; os llefa neb arno, nid yw'n ei ateb, nac yn ei achub o'i gyfyngder.

8Cofiwch hyn, ac ystyriwch; galwch i gof, chwi wrthryfelwyr.

9Cofiwch y pethau gynt, ymhell yn �l; oherwydd myfi sydd Dduw, ac nid arall, yn Dduw heb neb yn debyg i mi.

10'Rwyf o'r dechreuad yn mynegi'r diwedd, ac o'r cychwyn yr hyn oedd heb ei wneud. Dywedaf, 'Fe saif fy nghyngor, a chyflawnaf fy holl fwriad.'

11Galwaf ar aderyn ysglyfaethus o'r dwyrain, a gu373?r a wna fy nghyngor o wlad bell. Yn wir, lleferais ac fe'i dygaf i ben, fe'i lluniais ac fe'i gwnaf.

12Gwrandewch arnaf fi, chwi bobl ystyfnig, chwi sy'n bell oddi wrth gyfiawnder.

13Paraf i'm cyfiawnder nes�u; nid yw'n bell, ac nid oeda fy iachawdwriaeth. Rhof iachawdwriaeth yn Seion, a'm gogoniant i Israel.

British and Foreign Bible Society, 1988
/div>