Eseia 54:1-17 BCN1988 - Bible AI

1C�n di, y wraig ddi-blant na chafodd esgor; dyro g�n, bloeddia ganu, ti na phrofaist wewyr esgor; oherwydd y mae plant y wraig a adawyd yn lluosocach na phlant y wraig briod," medd yr ARGLWYDD.

2Helaetha faint dy babell, estyn allan lenni dy drigfannau; gollwng y rhaffau allan i'r pen, a sicrha'r hoelion.

3Oherwydd byddi'n ymestyn i'r dde ac i'r chwith; bydd dy had yn disodli'r cenhedloedd, ac yn cyfanheddu dinasoedd anrheithiedig.

4Paid ag ofni, oherwydd ni chywilyddir di, ni ddaw gwaradwydd na gwarth arnat; oherwydd fe anghofi gywilydd dy ieuenctid, ac ni chofi bellach am warth dy weddwdod.

5Oherwydd yr un a'th greodd yw dy u373?r � ARGLWYDD y Lluoedd yw ei enw; Sanct Israel yw dy waredydd, a Duw yr holl ddaear y gelwir ef.

6Fel gwraig wedi ei gadael, a'i hysbryd yn gystuddiol, y galwodd yr ARGLWYDD di � gwraig ifanc wedi ei gwrthod," medd dy Dduw.

7Am ennyd fechan y'th adewais, ond fe'th ddygaf yn �l � thosturi mawr.

8Am ychydig, mewn dicter moment, cuddiais fy wyneb rhagot; ond � chariad di�baid y tosturiaf wrthyt," medd yr ARGLWYDD, dy waredydd.

9Y mae hyn i mi fel dyddiau Noa, pan dyngais nad �i dyfroedd Noa byth mwyach dros y ddaear; felly tyngaf na ddigiaf wrthyt ti byth mwy, na'th geryddu ychwaith.

10Er i'r mynyddoedd symud, ac i'r bryniau siglo, ni symuda fy ffyddlondeb oddi wrthyt, a bydd fy nghyfamod heddwch yn ddi-sigl," medd yr ARGLWYDD, sy'n tosturio wrthyt.

11Y druan helbulus, ddigysur! 'Rwyf am osod dy feini mewn morter, a'th sylfeini mewn saffir.

12Gwnaf dy dyrau o ruddem, a'th byrth o risial; bydd dy fur i gyd yn feini dethol,

13a'th adeiladwyr oll wedi eu dysgu gan yr ARGLWYDD. Daw llwyddiant mawr i'th blant,

14a byddi wedi dy sylfaenu ar gyfiawnder; byddi'n bell oddi wrth orthrymder, heb ofn arnat, ac oddi wrth ddychryn, na ddaw'n agos atat.

15Os bydd rhai yn ymosod arnat, nid oddi wrthyf fi y daw hyn; bydd pwy bynnag sy'n ymosod arnat yn cwympo o'th achos.

16Edrych, myfi a greodd y gof, sy'n chwythu'r marwor yn d�n, ac yn llunio arf at ei waith; myfi hefyd a greodd y dinistrydd i ddistrywio.

17Ond ni lwydda unrhyw arf a luniwyd yn dy erbyn; gwrthbrofir pob tafod a'th gyhudda mewn barn. Dyma etifeddiaeth gweision yr ARGLWYDD, ac oddi wrthyf fi y daw eu goruchafiaeth," medd yr ARGLWYDD.

British and Foreign Bible Society, 1988
/div>