Eseia 56:1-12 BCN1988 - Bible AI

1Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: "Cadwch farn, gwnewch gyfiawnder; oherwydd y mae fy iachawdwriaeth ar ddod, a'm goruchafiaeth ar gael ei datguddio.

2Gwyn ei fyd y sawl sy'n gwneud felly, a'r un sy'n glynu wrth hyn, yn cadw'r Saboth heb ei halogi, ac yn ymgadw rhag gwneud unrhyw ddrwg."

3Na ddyweded y dieithryn a lynodd wrth yr ARGLWYDD, "Yn wir y mae'r ARGLWYDD yn fy ngwahanu oddi wrth ei bobl." Na ddyweded yr eunuch, "Pren crin wyf fi."

4Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: "I'r eunuchiaid sy'n cadw fy Sabothau ac yn dewis y pethau a hoffaf ac yn glynu wrth fy nghyfamod,

5y rhof yn fy nhu375? ac oddi mewn i'm muriau gofgolofn ac enw a fydd yn well na meibion a merched; rhof iddynt enw parhaol nas torrir ymaith.

6A'r dieithriaid sy'n glynu wrth yr ARGLWYDD, yn ei wasanaethu ac yn caru ei enw, sy'n dod yn weision iddo ef, yn cadw'r Saboth heb ei halogi ac yn glynu wrth fy nghyfamod �

7dygaf y rhain i'm mynydd sanctaidd, a rhof iddynt lawenydd yn fy nhu375? gweddi, a derbyn eu poethoffrwm a'u haberth ar fy allor; oherwydd gelwir fy nhu375? yn du375? gweddi i'r holl bobloedd,

8medd yr Arglwydd DDUW, sy'n casglu alltudion Israel. "Casglaf ragor eto at y rhai sydd wedi eu casglu."

9Dewch i ddifa, chwi fwystfilod gwyllt, holl anifeiliaid y coed.

10Y mae'r gwylwyr i gyd yn ddall a heb ddeall; y maent i gyd yn gu373?n mud heb fedru cyfarth, yn breuddwydio, yn gorweddian, yn hoffi hepian,

11yn gu373?n barus na wyddant beth yw digon. Y maent hefyd yn fugeiliaid heb fedru deall, pob un yn troi i'w ffordd ei hun, a phob un yn edrych am elw iddo'i hun,

12ac yn dweud, "Dewch, af i gyrchu gwin; gadewch i ni feddwi ar ddiod gadarn; bydd yfory'n union fel heddiw, ond yn llawer gwell."

British and Foreign Bible Society, 1988
/div>