1Yn ystod dyddiau Ahas fab Jotham, fab Usseia, brenin Jwda, daeth Resin brenin Syria, a Pheca fab Remaleia, brenin Israel, i ryfela yn erbyn Jerwsalem, ond methu ei gorchfygu.
2Yr oedd tu375? Dafydd wedi ei rybuddio bod Syria mewn cytundeb ag Effraim; ac yr oedd ei galon ef a'i bobl wedi cynhyrfu fel prennau coedwig yn ysgwyd o flaen y gwynt.
3Yna dywedodd yr ARGLWYDD wrth Eseia, "Dos allan, a'th fab Sear�jasub gyda thi, i gyfarfod Ahas wrth derfyn pistyll y llyn uchaf ar ffordd Maes y Pannwr,
4a dywed wrtho, 'Bydd ofalus, cadw'n dawel a phaid ag ofni; paid � digalonni o achos y ddau stwmp hyn o bentewynion myglyd, am fod Resin a'r Syriaid a mab Remaleia yn llosgi gan lid.
5Oherwydd i Syria ac Effraim a mab Remaleia wneud cynllwyn drwg yn d'erbyn, a dweud,
6Gadewch inni ymosod ar Jwda, a'i dychryn, a'i throi o'n plaid, a gosod brenin arni, sef mab Tabeal,
7dyma y mae'r ARGLWYDD Dduw yn ei ddweud: Ni saif hyn, ac ni ddigwydd.
8Pen Syria yw Damascus, a phen Damascus yw Resin. Cyn diwedd pum mlynedd a thrigain bydd Effraim wedi ei dryllio a pheidio � bod yn bobl.
9Pen Effraim yw Samaria, a phen Samaria yw mab Remaleia. Oni fyddwch yn sefydlog, ni'ch sefydlogir.'"
10Llefarodd yr ARGLWYDD eto wrth Ahas, a dweud,
11Gofyn am arwydd gan yr ARGLWYDD dy Dduw, arwydd o ddyfnder Sheol neu o uchder nefoedd."
12Ond atebodd Ahas, "Ni ofynnaf, ac nid wyf am osod yr ARGLWYDD ar brawf."
13Dywedodd yntau, "Gwrandewch yn awr, tu375? Dafydd. Ai peth bach yn eich golwg yw trethu amynedd pobl, a'ch bod am drethu amynedd fy Nuw hefyd?
14Am hynny, y mae'r ARGLWYDD ei hun yn rhoi arwydd i chwi: Wele ferch ifanc yn feichiog, a phan esgor ar fab, fe'i geilw'n Immanuel.
15Bydd yn bwyta menyn a m�l pan ddaw i wybod sut i wrthod y drwg a dewis y da.
16Cyn i'r plentyn wybod sut i wrthod y drwg a dewis y da, fe ddifrodir tir y ddau frenin yr wyt yn eu hofni.
17Bydd yr ARGLWYDD yn dwyn arnat ti ac ar dy bobl ac ar du375? dy dad ddyddiau na fu eu tebyg er pan dorrodd Effraim oddi wrth Jwda � brenin Asyria."
18Yn y dydd hwnnw chwibana'r ARGLWYDD am y gwybedyn o afonydd pell yr Aifft, ac am y wenynen o wlad Asyria;
19fe dd�nt ac ymsefydlu i gyd yn yr hafnau serth ac yn agennau'r creigiau, ar yr holl goed drain ac ar yr holl borfeydd.
20Yn y dydd hwnnw bydd yr ARGLWYDD, ag ellyn a logwyd y tu hwnt i'r Ewffrates, brenin Asyria, yn eillio'r holl ben a blew'r traed, a thorri ymaith y farf hefyd.
21Yn y dydd hwnnw bydd rhywun yn cadw'n fyw heffer a dwy ddafad;
22a chaiff ganddynt ddigon o laeth i fedru bwyta menyn; canys bwyteir menyn a m�l gan bob un a adewir yn y wlad.
23Yn y dydd hwnnw bydd pob man lle bu mil o winwydd, gwerth mil o ddarnau arian, yn fieri ac yn ddrain.
24Daw dynion yno � saethau a bw�u, canys bydd mieri a drain ym mhobman.
25Ni ddaw neb i'r llechweddau lle bu'r gaib unwaith yn trin, rhag ofn y mieri a'r drain; byddant yn lle i ollwng gwartheg iddo, ac yn gynefin defaid.